Hygyrchedd
I ymwelwyr ag anghenion hygyrchedd, rydym wedi darparu teithiau fideo a chlywedol YMA o’r maes parcio i'r adeilad, y swyddfa docynnau ac i mewn i'ch seddi. Os hoffech archebu taith gyffwrdd neu os hoffech siarad ag aelod o staff y swyddfa docynnau am fynediad cynnar, neu os oes gennych bryderon y gallwn ymdrin â nhw ar gyfer eich ymweliad, mae croeso i chi gysylltu â ni ar 01792 602060
Ar wefan a chyfryngau cymdeithasol y Taliesin, rydym wedi anodi perfformiadau sydd wedi'u sgrindeitlo ac mae gennym hefyd gylchwifren ar gyfer gwesteion sy'n defnyddio cymhorthion clyw. Os hoffech brofi'r rheini, dylech gyrraedd mewn da bryd ar gyfer eich digwyddiad a rhoi gwybod i'n staff blaen tŷ galluog a defnyddiol. Nodwn hefyd pa rai o'n perfformiadau sydd â disgrifiad sain ac os hoffech gadarnhau a oes gan berfformiad ddisgrifiad sain, cysylltwch â ni.
Mae seddi penodol sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn yn yr awditoriwm yn ogystal â seddi rydym yn eu cadw ar gyfer pobl â phroblemau symudedd. Cysylltwch â ni yn y swyddfa docynnau i archebu lle gyda ni a byddwn bob amser yn ceisio dod o hyd i'r seddi gorau a fydd yn cyd-fynd â'ch gofynion unigol.
Rydym bob amser yn awyddus i gael adborth ar ein darpariaeth hygyrchedd ac rydym bob amser yn ceisio gwella'r ffordd rydym yn sicrhau y gall ein holl westeion gael mynediad cyfforddus i'n perfformiadau a'n ffrydiau byw.
Sut i gyrraedd?
Lawrlwytho: Ein gwybodaeth ddefnyddiol
Agor: Map Campws Parc Singleton
Lleolwch Taliesin mewn Google Maps
Agor: Map Campws y Bae
Lleolwch Y Neuadd Fawr mewn Google Maps
Agor: Cynllun Campws y Bae
Mynediad i bawb
Lawrlwytho: Ein gwybodaeth
Gweld cynllun eistedd yr awditoriwm
Gweld lluniau o'r awditoriwm