Datganiad Hygyrchedd
www.taliesinartscentre.co.uk
To view Taliesin's Accessibility Statement in English.
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i https://www.taliesinartscentre.co.uk/
Datblygwyd y wefan hon gan Brifysgol Abertawe ac fe'i chynhelir gan y Tîm Gwasanaethau Academaidd. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan, teimlo bod croeso iddynt a chael y profiad yn werth chweil. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu
- Chwyddo hyd at 200% heb i'r testun ollwng oddi ar y sgrîn.
- Addasu bylchiad testun heb effeithio ar gynllun na defnyddioldeb y dudalen.
- Llywio'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig.
- Neidio i'r prif gynnwys pan fo angen.
- Defnyddio dull llywio cyson ar draws y safle.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw www.taliesinartscentre.co.uk?
Gwerthuswyd y wefan gan ein harbenigwr mewnol ac mae’n ardystio bod www.taliesinartscentre.co.uk yn cydymffurfio'n rhannol â safon Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 AA.
Gwyddom nad yw rhai rhannau o www.taliesinartscentre.co.uk mor hygyrch ag y dylent fod:
- Nid yw’r carwsél yn cefnogi llywio bysellfwrdd ac ni ellir ei oedi.
- Defnyddir delweddau cefndir ar gyfer cynnwys ystyrlon, felly rhoddir disgrifiad neu cânt eu cyhoeddi i dechnolegau cynorthwyol.
- Nid yw rhai newidiadau i'r cyflwr yn bodloni'r gymhareb gyferbyniad isaf sydd ei hangen.
- Mae rhai gwallau yn bresennol yn yr HTML a ddefnyddir ar dudalennau.
- Roedd angen canolbwyntio ar negeseuon statws er mwyn iddynt gael eu cyhoeddi gan dechnolegau cynorthwyol.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes angen gwybodaeth www.taliesinartscentre.co.uk arnoch mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu Braille gallwch gysylltu â'n Canolfan Drawsgrifio:
E-bost: braille@abertawe.ac.uk
Twitter: @SUTranscription
Canolfan Drawsgrifio Prifysgol Abertawe, Adeilad Amy Dillwyn, Prifysgol Abertawe, Parc Singleton, Abertawe SA2 8PP, Y Deyrnas Unedig
Sut i ddod o hyd i'r ganolfan drawsgrifio: SUTC-Accessibility-Guide
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn ymateb o fewn 7 niwrnod.
Adrodd am broblemau hygyrchedd gyda www.taliesinartscentre.co.uk
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan. Os ydych yn dod o hyd i broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd:
E-bostiwch: info@taliesinartscentre.co.uk
Ffoniwch ni: +44 (0)1792 602060
Y weithdrefn orfodi
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn fodlon â'r ffordd rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS)
Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni'n bersonol
Nod y brifysgol yw darparu gwasanaethau gwybodaeth ac arweiniad proffesiynol i fyfyrwyr anabl, myfyrwyr ag anghenion penodol a/neu gyflyrau meddygol. Gallwn ddarparu cymorth os hoffech ymweld â ni neu ffonio ni.
Cysylltwch â'r swyddfa anabledd:
Rhif ffôn: +44 (0)1792 60 6617
E-bost: anabledd@abertawe.ac.uk
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan
Mae Taliesin a Phrifysgol Abertawe wedi ymrwymo i sicrhau bod eu holl wefannau ar gael, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae www.taliesinartscentre.co.uk yn cydymffurfio'n rhannol â Safon Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 AA/A, oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.
Cynnwys nad yw'n hygyrch
Mae Prifysgol Abertawe wedi ymrwymo i gynnal hygyrchedd Lefel AA. Mae'r wybodaeth ganlynol yn esbonio unrhyw rannau o'r wefan nad ydynt yn cydymffurfio, hyd y gwyddom, a beth rydym yn ei wneud i wneud i hynny ddigwydd.
Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.
Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd
Maen prawf llwyddiant WCAG 2.: 1.1.1 Cynnwys Nad yw’n Destun
Delweddau Cefndir a ddefnyddir ar gyfer cynnwys ystyrlon
Mae'r wefan yn defnyddio delweddau carwsél a chefndir ar gyfer cynnwys ystyrlon, ystyrir bod y rhain yn addurniadol gan dechnolegau cynorthwyol ac ni roddwyd y statws cywir na'r testun amgen iddynt. Defnyddir yr un gydran ar y dudalen digwyddiadau sy'n golygu nad oes disgrifiad ar gael ar gyfer delwedd digwyddiad.
Maen prawf llwyddiant WCAG 2.1: 1.4.11 Cyferbyniad Nad yw’r Destun
Categorïau heb eu Pennu a Newidiadau i Gyflwr y Categori
Mae'r wefan yn defnyddio categorïau ar gyfer digwyddiadau. Mae'r newidiadau cyflwr (hofran) i labeli testun yn methu o safbwynt y canllawiau cyferbynnu.
Maen prawf llwyddiant WCAG 2.1: 2.1.1 Bysellfwrdd
Nid yw’r carwsél yn cefnogi llywio bysellfwrdd
Ni chefnogir llywio drwy dabio “dot” yn y carwsél.
Maen prawf llwyddiant WCAG 2.1: 2.2.2 Rhewi, Stopio, Cuddio
Ni ellir oedi’r carwsél
Ni all defnyddwyr atal y cylch cynnwys yn y carwsél.
Maen prawf llwyddiant WCAG 2.1: 4.1.1 Dosrannu
Gwallau gyda HTML
Adroddwyd am nifer o wallau pan wiriwyd yr HTML yn erbyn https://validator.w3.org/ Roedd y rhain yn cynnwys ID nadr oedd yn unigryw, tagiau href gwag a defnydd annilys o'r CSS.
Maen prawf llwyddiant WCAG 2.1: 4.1.3 Negeseuon Statws
Rhaid i Negeseuon Statws dderbyn ffocws
Nid yw canlyniadau a hidlyddion chwilio yn rhoi cyhoeddiadau i ddarllenwyr sgrîn heb roi ffocws iddo.
Sut bydd yn mynd i'r afael â diffyg cydymffurfio
Eir i'r afael â'r methiannau uchod drwy'r canlynol:
- Gweithio gyda’n datblygwyr trydydd parti i fynd i'r afael â'r materion hyn.
Baich Anghymesur
Cynhaliwyd asesiad gan ystyried maint ac adnoddau sydd ar gael i'r sefydliad, nodir cynnwys y bernir ei fod yn faich anghymesur yn yr adran hon.
Llywio a chael gafael ar wybodaeth
Dim problemau neu ddim yn berthnasol.
Offer a thrafodion rhyngweithiol
Dim problemau neu ddim yn berthnasol.
Offer rhyngweithiol
Dim problemau neu ddim yn berthnasol.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Cynhaliwyd asesiad gan ystyried maint ac adnoddau sydd ar gael i'r sefydliad, nodir cynnwys a fernir y tu allan i gwmpas y rheoliadau yn yr adran hon.
PDFs a dogfennau eraill
Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio PDFs na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Bydd dogfennau PDFs neu Word newydd a gyhoeddir gennym yn bodloni safonau hygyrchedd.
Beth rydyn ni'n ei wneud i wella hygyrchedd
Mae Map Hygyrchedd ein Gwefan yn dangos sut a phryd rydym yn bwriadu gwella hygyrchedd ar www.taliesinartscentre.co.uk.
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 22/09/2020. Fe'i diweddarwyd ddiwethaf ar 22/09/2020.
Profwyd y wefan www.taliesinartscentre.co.uk ddiwethaf ar 17/09/2020. Cynhaliwyd y prawf gan arbenigwr ar hyfywedd a hygyrchedd sy'n gweithio i Brifysgol Abertawe.
Defnyddiwyd proses a dull cyson o benderfynu ar sampl o dudalennau i'w profi. Mae hwn ar gael yn sut y profwyd y wefan gennym .
Mae'r adroddiad hygyrchedd llawn ar gael ar gais.