Taliesin Live - ROH: The Nutcracker

Overview:


Y Tŷ Opera Brenhinol

The Nutcracker (Yn Fyw 12A)

Coreograffi: Peter Wright
Ar ôl: Lev Ivanov
Cerddoriaeth: Pyotr Il'Yich Tchaikovsky

Ar Noswyl Nadolig, mae Clara ifanc yn cropian lawr y grisiau i chwarae gyda’i hoff anrheg – y ddol Nutcracker. Ond mae Drosselmeyer, y dewin dirgel yn aros amdani i’w sgubo ar antur hudol. Ar ôl trechu Brenin y Llygod, teithia Clara a’r Nutcracker trwy Wlad yr Eira i Deyrnas y Melysion, ac mae’r Sugar Plum Fairy yn perfformio dawnsfeydd gwefreiddiol iddyn nhw. Ar ôl mynd adref, mae Clara yn meddwl mai breuddwyd oedd y cyfan – ond onid yw hi’n  adnabod nai Drosselmeyer?

Ystyrir cynhyrchiad Peter Wright ar gyfer y Bale Brenhinol, fel un o’r dehongliadau mwyaf parhaol a swynol o The Nutcracker. Ynghyd â’r cefndir Nadoligaidd, y plu eira sy’n dawnsio a hud y llwyfan syfrdanol, bale 1892 Lev Ivanov yw’r adloniant perffaith ar gyfer y Nadolig, a cherddoriaeth ragorol, ‘sugar-spun’ Tchaikovsky yw’r sgôr bale mwyaf adnabyddus.

Agorir y bale, sy’n seiliedig yn fras ar stori E.T.A. Hoffmann, gyda pharti Nadolig bywiog, ac mae dyluniadau Julia Trevelyan Oman yn adlewyrchu’r lleoliad Fictoraidd. Mae coreograffi dyfeisgar Wright yn ymgorffori darnau o ddeunydd gwreiddiol y bale, gan gynnwys y pas de deux mawreddog ar gyfer y Sugar Plum Fairy a’i thywysog. Ond trwy bwysleisio’r berthynas rhwng Clara a’r Tywysog Nutcracker, mae’r cynhyrchiad hefyd yn cyfleu arwyddocâd cariad cyntaf.

Hyd y bale: tua 2awr 45munud (gan gynnwys 1 egwyl)

Nos Fawrth 5 Rhagfyr 7.15yh

Dates and Times:

Maw 5th Rha

7.15yh

Pricing Information:

CategoryPrice
Full price:£ 14
Under 18's:£ 12
Full time students:£ 12
Senr.Citizens:£ 12
Other Conc.:£ 12

View Preview:

Dychwelyd I Archebu Blaenorol Nesaf