Taliesin Live - Evie Ladin & Keith Terry (USA)

Overview:


Evie Ladin a Keith Terry (UDA)

Dawns a cherddoriaeth ‘roots’ Americanaidd deinamig

Magwyd Evie Ladin, y gantores, cyfansoddwraig, chwaraewraig banjo a dawnswraig step, sydd bellach yn byw yn Oakland, California, yn sain cerddoriaeth draddodiadol yr Appalachiaid. A hithau’n berfformwraig fyw ragorol, mae i’w chaneuon gwreiddiol a’i dawns ergydiol weledigaeth gyfoes a natur ddinesig. Roedd Evie’n aelod allweddol o’r band llinynnol o San Fransisco, The Stairwell Sisters, ac mae hi wedi cyhoeddi tri albwm yn ei henw ei hun ers 2010.

Keith Terry sy’n chwarae’r bas dwbl a’r cajón, ymhlith offerynnau eraill, ac mae’n ymuno ag Evie ar gyfer elfennau dawns sioeau’r ddeuawd. Ac yntau’n sylfaenydd yr ŵyl International Body Music ac yn gerddor corfforol dawnus, mae Keith wedi perfformio mewn lleoliadau amlwg ledled y byd. Cyfarfu ef ac Evie ar y llawr dawnsio ac maen nhw’n byw eu bywydau rhwng y gylchdaith werin/Americana a’r sîn cerddoriaeth gorfforol y mae’r ddau wedi helpu i’w chreu. Yn eu sioe fyw, maen nhw’n cyfuno’r ddwy elfen yn gelfydd.

“Evie Ladin is a natural entertainer with a gift for infusing folk practices with contemporary verve.” San Francisco Chronicle

www.evieladin.com

Nos Iau 1 Mehefin 7.30yh

Spice_logo.jpg

Dates and Times:

Iau 1st Meh

7.30yh

Pricing Information:

CategoryPrice
Full price:£ 12
Under 18's:£ 10
Full time students:£ 10
Senr.Citizens:£ 10
Other Conc.:£ 10

View Preview:

Dychwelyd I Archebu Blaenorol Nesaf