Taliesin Live - 2Faced Dance Company - RUN

Overview:

2Faced Dance Company yn cyflwyno

Run

Ymladd neu ffoi? Mae dewis bob amser.

Tri gwaith ffrwydrol gan y cwmni dawns corfforol ac anturus, 2Faced Dance Company, sydd wedi ennill gwobrau lu.

Mae RUN yn cynnwys tri gwaith comisiwn cyffrous gan goreograffwyr o safon byd, sef Tamsin Fitzgerald, Lenka Vagnerová a’r newydd-ddyfodiad, Rebecca Evans, ac mae’n trin a thrafod ochr dywyll y ddynoliaeth, drwy gyfuniad ffrwydrol o symudiadau, theatr a dyluniad.

Ers ei sefydlu yn 1999, mae 2Faced Dance wedi datblygu i fod yn un o gwmnïau dawns gyfoes gwrywaidd, dinesig mwyaf blaenllaw’r wlad. Mae’r gwaith diweddaraf hwn, sy’n wleidyddol ei natur ac sy’n cael ei berfformio gan bum dawnsiwr anhygoel, wedi gwneud argraff ar gynulleidfaoedd ledled y DU.

Gwaith trawiadol gan Gyfarwyddwr Artistig 2Faced Dance, Tamsin Fitzgerald, yw From Above. Mae’n ystyried ein gallu (neu ein hanallu) i ddadlau dros yr hyn yr ydym yn credu ynddo.

Mae The Other gan Rebecca Evans yn talu teyrnged gain ac iasol i’r hen ffilmiau arswyd; deuawd lle mae golau a dawns yn rhyngweithio â’i gilydd yn feistrolgar.

Mae gwaith trawiadol Lenka Vagnerová, Fallen, yn seiliedig ar y chwedloniaeth o ran angylion syrthiedig a’r syniad eu bod yn symud o’n cwmpas ar ôl iddynt gael eu bwrw allan o’r nefoedd.

 “[...]packed with driving physicality” DANCING TIMES

“Exciting, hypnotic and strangely beautiful” THE GUARDIAN

Amser rhedeg: 2 awr (gan gynnwys egwyl)

I rai 11+ oed

Llun: Chris Nash

http://www.2faceddance.co.uk/touring-show/run/

Nos Iau 11 Mai 7.30yh

Spice_logo.jpg

Dates and Times:

Iau 11th Mai

7.30yh

Pricing Information:

CategoryPrice
Full price:£ 14
Under 18's:£ 12
Full time students:£ 12
Schools.:£ 7
Senr.Citizens:£ 12
Other Conc.:£ 12

View Preview:

Dychwelyd Blaenorol Nesaf