Great Hall Event - Ensemble Cymru: Taith Pen-blwydd

Overview:

Ensemble_Cymru_15_anniversary.jpg


Ensemble Cymru - Taith Pen-blwydd

Bydd prif ensemble cerddoriaeth siambr Cymru, Ensemble Cymru, yn dathlu ei ben-blwydd yn 15 oed eleni, gyda chyngerdd estynedig ac arbennig iawn yn Y Neuadd Fawr, Abertawe yn yr hydref. Bydd yn dwyn ynghyd cerddorion byd-enwog sy'n teimlo'n angerddol am rannu cerddoriaeth siambr prin o Gymru a'r byd.

Bydd Ensemble Cymru yn canolbwyntio ar gyfansoddwyr o Gymru gyda pherfformiad o Not the Stillness gan John Metcalf a gwaith cyfansoddwr newydd ifanc o Gymru, Claire Roberts. Bydd hefyd yn gyfle prin i glywed perfformiad byw o Chamber Music No. 1 gan Martinů sydd â'r cyfuniad anghyffredin o'r delyn a'r piano.  

Hyd: 90 munud (yn cynnwys egwyl 15 munud)

Y Rhaglen

Cerddoriaeth i'r delyn, piano, ffliwt, clarinét, fiola, feiolín a sielo

Chamber Music no. 1 – Bohuslav Martinů

Piano Quartet in A minor – Gustav Mahler

Concert a Cinq – Joseph Jongen

Not the Stillness – John Metcalf

Block – Claire Roberts

 

4 Tachwedd 2017, 7:30pm

Ensemble_Cymru_logo_group.jpg

Dates and Times:

Sad 4th Tac

7.30yh

Pricing Information:

CategoryPrice
Full price:£ 10
Under 18's:£ 4
Full time students:£ 4
Senr.Citizens:£ 8
Other Conc.:£ 8

View Preview:

Dychwelyd I Archebu Blaenorol Nesaf