NTLive - Straight Line Crazy
Iau 26 Mai 7pm | Darllediadau Taliesin
Ralph Fiennes (Antony & Cleopatra) sy’n arwain y cast yng nghyflwyniad eirias David Hare (Skylight) o’r dyn mwyaf pwerus yn Efrog Newydd, manipwleiddiwr o fri, y newidiodd ei ddylanwad y ddinas am byth. Am ddeugain mlynedd yn ddi-dor, bu Robert Moses yn ecsbloetio deiliaid swyddi trwy eu swyno a’u bygwth am yn ail. Ei gymhelliad cychwynnol oedd ei benderfyniad i wella bywydau gweithwyr Dinas Efrog Newydd, a bu’n creu parciau, pontydd a 627 milltir o ffyrdd cyflym er mwyn cysylltu’r bobl â’r byd mawr y tu allan. Yn wyneb gwrthwynebiad grwpiau protest sy’n ymgyrchu dros syniad gwahanol iawn o’r hyn y dylai’r ddinas fod, a ddaw gwendid democratiaeth i’r amlwg yn wyneb ei argyhoeddiad carismataidd? Nicholas Hytner yw cyfarwyddwr y ddrama newydd gyffrous hon, sy’n cael ei darlledu’n fyw o’r Bridge Theatre yn Llundain.
Ticket Prices
- Full price: £ 14
- Under 18's: £ 12
- Full time students: £ 12
- Senior Citizens: £ 12
- Other Concessions: £ 12
NTLive - Straight Line Crazy