The Royal Ballet: Swan Lake
Llun 23 Mai 7:15 | Darllediadau Taliesin
Mae’r stori dylwyth teg glasurol hon yn cynrychioli’r frwydr rhwng da a drwg, ac ymgais cariad i drechu popeth. Daw hud a lledrith y llynnoedd, y coedwigoedd a’r palasau yn fyw trwy gyfrwng dyluniadau disglair John Macfarlane a sgôr aruchel Tchaikovsky. Dyma un o glasuron y repertoire, ac mae’n tystio i gariad diderfyn y diweddar goreograffydd Liam Scarlett at glasuriaeth a’i ysbryd cerddorol cynhenid, sy’n tywynnu drwy’r cynhyrchiad hwn.
Ticket Prices
- Full price: £ 14
- Under 18's: £ 12
- Full time students: £ 12
- Senior Citizens: £ 12
- Other Concessions: £ 12
The Royal Ballet: Swan Lake