ROH: Romeo & Juliet
Llun 7 Mawrth 7.15yh | Darllediadau Taliesin
Y Tŷ Opera Brenhinol
Romeo and Juliet
Bale mewn tair act
Coreograffi: Kenneth Macmillan
Cerddoriaeth: Sergei Prokofiev
Mae cariadon Shakespeare, nad yw’r sêr o’u plaid, yn profi angerdd a thrychineb yn y campwaith bale hwn o’r 20fed ganrif. Mae Romeo a Juliet wedi dod yn un o glasuron modern mawr byd y bale ers iddo gael ei greu gan Gyfarwyddwr y Cwmni Bale Brenhinol, Kenneth MacMillan, a’i berfformio am y tro cyntaf yn 1965. Mae’r cariadon trist eu tynged yn ceisio cael hyd i ffordd trwy holl liw a chyffro Verona’r Dadeni, lle mae marchnad brysur yn troi’n frwydr cleddyfau’n frawychus o gyflym, ac mae gelyniaeth deuluol yn datblygu’n drychineb i ddau deulu’r Montagues a’r Capulets.
Ticket Prices
- Full price: £ 14.00
- Under 18's: £ 12.00
- Full time students: £ 12.00
- Senior Citizens: £ 12.00
- Other Concessions: £ 12.00
ROH: Romeo & Juliet