Our Planet: Too Big to Fail
Gwener 27 Tachwedd , 1pm - 2.45pm | Taliesin
DYDD WENER 27 TACHWEDD 1-2.45PM
Our Planet: Too Big to Fail
Ffilm newydd wedi'i hysbrydoli gan gyfres Our Planet Netflix
Ymunwch â ni ar gyfer y digwyddiad ar-lein arbennig hwn sy'n cynnwys dangosiad o Our Planet: Too Big to Fail a sesiwn holi-ac-ateb gyda Chyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe Bevis Watts a Rhiannon Shah
Cynhelir y digwyddiad gan Sefydliad Diwylliannol Prifysgol Abertawe mewn cydweithrediad â'r Swyddfa Cyn-fyfyrwyr a Datblygu a Chanolfan y Celfyddydau Taliesin.
Wedi’i hysbrydoli gan gyfres wreiddiol Netflix Our Planet, mae Our Planet: Too Big To Fail yn archwilio peryglon diffyg gweithredu, effaith buddsoddi-yn-ôl-yr-arfer, a’r rôl hanfodol y gall y sector cyllid ei chwarae yn y frwydr dros ein byd. Mae'r ffilm yn cyfuno lluniau ysblennydd o'r byd naturiol o'r gyfres Our Planet gyda chyfweliadau pryfoclyd â rhai o'r enwau mwyaf dylanwadol yn y sector fel Syr David Attenborough, Mark Carney, Catherine Howarth, Gillian Tett a Chyn-fyfyriwr Prifysgol Abertawe, Bevis Watts.
Croeso a chyflwyniad gan yr Athro Elwen Evans CF - Dirprwy Is-ganghellor a Deon Gweithredol, Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol.
Bydd hefyd Sesiwn Holi ac Ateb dan gadeiryddiaeth Mike Buckle, Athro Cyllid yn yr Ysgol Reolaeth - gyda Chyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe Bevis Watts, Prif Swyddog Gweithredol yn Triodos Bank UK sy'n ymddangos yn y ffilm a Rhiannon Shah, Arweinydd Busnes ar Dîm Our Planet yn WWF-UK a helpodd ei chreu.
COFRESTRWCH YMA
Ticket Prices
Our Planet: Too Big to Fail