Taliesin Broadcast - ROH: Elektra (Fel yn Fyw 12A)

Overview:

ROH: Elektra

Cerddoriaeth: Richard Strauss

Cyfarwyddwr: Christof Loy

Wedi'i chanu yn Almaeneg gydag is-deitlau Saesneg

Corws yr Opera Frenhinol

Cerddorfa'r Tŷ Opera Brenhinol

Mae addasiad gwefreiddiol a mentrus Strauss o drasiedi Roegaidd yn destun llwyfannu newydd gan y cyfarwyddwr arobryn, Christof Loy. Mae'r opera ddigyfaddawd hon, am ferch sy'n benderfynol o ddial yn waedlyd a mam a gaiff ei gwthio i wallgofrwydd, wedi sbarduno trafodaeth frwd ymhlith beirniaid, ac wedi gwefreiddio a chyffroi cynulleidfaoedd ers ei pherfformiad cyntaf ym 1909. Antonio Pappano sy'n arwain cerddoriaeth sy'n cyfuno trais gydag eiliadau o dynerwch coeth yn ei ddehongliad cyntaf o Strauss i'r Opera Frenhinol ers 2002. Mae'r cast rhagorol yn cynnwys Nina Stemme (Brünnhilde yn Der Ring des Nibelungen y tymor diwethaf) yn y brif rôl, a Karita Mattila yn ei rôl gyntaf fel y frenhines gythryblus Klytämnestra.

Hyd y sioe: tua  2 awr

Llun:: ©ROH/Bill Cooper 2009

Nos Fercher 24 Mehefin 7pm

Prices and Times:

Wed 24th Jun

Pricing Information:

CategoryPrice
Full price:£ 14
Under 18's:£ 12
Full time students:£ 12
Senr.Citizens:£ 12
Other Conc.:£ 12