Taliesin Broadcast - ROH: Cavalleria Rusticana/Pagliacci (Fel yn Fyw 12A)

Overview:

ROH: Cavalleria Rusticana/Pagliacci

CAVALLERIA RUSTICANA

Cerddoriaeth: Pietro Mascagni

PAGLIACCI

Cerddoriaeth: Ruggero Leoncavallo

Cyfarwyddwr: Damiano Michieletto

Corws yr Opera Frenhinol

Cerddorfa'r Tŷ Opera Brenhinol

Wedi'i chanu yn Eidaleg gydag is-deitlau Saesneg

Daw ddau glasur operatig ynghyd yn yr ail gread hwn sy'n seiliedig ar arsylwi ar fywyd mewn

pentref yn ne'r Eidal wrth i theatr deithiol ymweld ag ef ac wrth i deimladau ffrwydrol ddod i'r amlwg. Mae'r cynhyrchiad arobryn hwn gan Damiano Michieletto yn cyflwyno'n fywiog y digwyddiadau cyflym, brawychus sy'n deillio o gariad cyfrinachol a chenfigen afreolus. Mae'r gerddoriaeth yn llawn alawon Eidalaidd yn y cytganau mawreddog sy'n uno'r pentrefwyr mewn dathliadau a miri, ynghyd ag ariâu'r unawdydd a gwrthdaro annifyr sy'n ennyn trais a thrasiedi. Gyda chanu gwefreiddiol a drama ddwys, mae 'Cav a Pag' yn noson ragorol, gydag apêl opera Eidalaidd ar ei ffurf fwyaf cyfarwydd.

Hyd y sioe: tua  3 awr

Llun: Catherine Ashmore

Nos Fawrth 21 Ebrill 7pm

Prices and Times:

Tue 21st Apr

Pricing Information:

CategoryPrice
Full price:£ 14
Under 18's:£ 12
Full time students:£ 12
Senr.Citizens:£ 12
Other Conc.:£ 12