Taliesin Broadcast - NT Live: Hansard (12A)

Overview:

Gan Simon Wood

Hansard; enw priod
Yr adroddiad swyddogol o holl ddadleuon y Senedd.

Cyfle i weld enillwyr dwy Wobr Olivier, Lindsay Duncan (Birdman, About Time) ac Alex Jennings (The Lady in the Van, The Queen), yn y ddrama newydd sbon hon gan Simon Wood, mewn darllediad byw o'r National Theatre yn Llundain.

Mae'n fore o haf ym 1988 ac mae'r gwleidydd Torïaidd, Robin Hesketh, wedi dod adref i'r tŷ delfrydol yn y Cotwolds mae'n ei rannu â'i wraig ers 30 o flynyddoedd, Diana. Ond nid yw'r paradwys mor berffaith ag ymddengys. Mae pen mawr gan Diana, mae llwynog yn dinistrio'r ardd ac mae cyfrinachau'n cael eu datgelu o boptu. Wrth i'r dydd fynd yn ei flaen, mae'r hyn a ddechreuodd fel tynnu coes chwareus a rhythmau cyfarwydd ymgecru priodasol yn troi'n gyflym yn frwydr filain.

Peidiwch â cholli'r portread ffraeth ac ysgytiol hwn o'r dosbarth llywodraethu, wedi'i gyfarwyddo gan Simon Godwin (NT Live: Antony & Cleopatra, Twelfth Night) a rhan o dymor 10fed pen-blwydd National Theatre Live.

Hyd y sioe: 1awr 40mnd (dim egwyl)

Thursday 7 November 7pm

Prices and Times:

Thu 7th Nov

Pricing Information:

CategoryPrice
Full price:£ 14
Under 18's:£ 12
Full time students:£ 12
Senr.Citizens:£ 12
Other Conc.:£ 12