Taliesin Broadcast - NT Live: A Midsummer Night's Dream (As Live 12A)

Overview:

Gan William Shakespeare

Wedi'i ffilmio’n fyw o flaen cynulleidfa

‘The course of true love never did run smooth.’

Mae Brenin a Brenhines cecrus Tylwyth Teg y goedwig yn cwrdd ar hap â phedwar o gariadon ar ffo a chwmni o actorion sy'n ceisio ymarfer drama. Wrth i'r ffrae rhyngddynt waethygu, mae'r pâr brenhinol hudolus yn ymyrryd â bywydau dynol gan greu trionglau caru, camadnabyddiaeth a thrawsnewidiadau...sy’n arwain at ganlyniadau tra digrif ond tywyll.

Bydd comedi ramantus enwocaf Shakespeare yn cael ei ffilmio'n fyw o'r Bridge Theatre yn Llundain. Mae Gwendoline Christie (Game of Thrones), Oliver Chris (Green Wing, NT Live: Young Marx), David Moorst (NT Live: Allelujah!) a Hammed Animashaun (The Barber Shop Chronicles) yn arwain y cast gan chwarae rolau Titania, Oberon, Puck a Bottom.

Bydd y cynhyrchiad hwn o A Midsummer Night’s Dream wedi’i gyfarwyddo gan Nicholas Hytner, yn adeiladu ar lwyddiant ei gynhyrchiad ymdrochol o Julius Caesar (NT Live 2019). Caiff y Bridge Theatre ei thrawsnewid yn goedwig - byd breuddwydiol lle mae'r tylwyth teg yn hedfan, yn llawn niwloedd heintus, lle datgelir cyfrinachau yng ngolau'r lloer, wedi'i hamgylchynu gan gynulleidfa ar grwydr sy'n dilyn y cyffro ar gerdded.

Dydd Sul 20 Hydref 2pm

Prices and Times:

Sun 20th Oct

Pricing Information:

CategoryPrice
Full price:£ 14
Under 18's:£ 12
Full time students:£ 12
Senr.Citizens:£ 12
Other Conc.:£ 12