Taliesin Broadcast - Margaret Atwood: Live in Cinemas (As Live 12A)

Overview:

O’r diwedd…. mae The Testaments, dilyniant hirhoedlog Margaret Atwood i The Handmaid’s Tale, yn cael ei lansio heno. Byddwn yn dathlu’r digwyddiad llenyddol pwysig hwn gyda darllediad byw egsliwsif â’r nofelydd, y bardd, y beirniad llên a’r ddyfeiswraig o Ganada.

Byth ers ei chyhoeddi ym 1985, mae The Handmaid’s Tale a’r gyfres deledu a enillodd wobr Emmy, wedi creu ffenomen ddiwylliannol, a’r llawforynion yn symbol o hawliau menywod. Bydd Atwood yn cael ei holi gan Samira Ahmed, mewn cyfweliad a fydd yn croniclo gyrfa ryfeddol Atwood, ei gwaith hynod amrywiol, a pham mae wedi dychwelyd at ei stori arloesol 34 o flynyddoedd yn ddiweddarach.

‘Dear Readers: Everything you've ever asked me about Gilead and its inner workings is the inspiration for this book. Well, almost everything! The other inspiration is the world we've been living in.’

Gyda darlleniadau arbennig o’r llyfr newydd gan westeion arbennig.

Cyhoeddir Y Testamentau ledled y byd ar 10 Medi.

Nodyn i gwsmeriaid: Mae cangymeriad yn llyfryn Gorffennaf-Medi Taliesin ar gyfer y digwyddiad hwn. Mae'r prisiau tocynnau a ddangosir yma ar y wefan yn gywir - £15 a £13 (ac nid £14 a £12 fel yn y llyfryn). Rydym yn ymddiheuro am unrhyw ddryswch. Mae fersiwn ddigidol y llyfryn yn dangos y prisio cywir.

Hyd y perfformiad: 1awr 50mnd

Nos Fawrth 10 Medi 7.30pm

Prices and Times:

Tue 10th Sep

Pricing Information:

CategoryPrice
Full price:£ 15
Under 18's:£ 13
Full time students:£ 13
Senr.Citizens:£ 13
Other Conc.:£ 13