Taliesin Broadcast - ROH: La forza del destino (Fel yn Fyw 12A)

Overview:

Y Tŷ Opera Brenhinol

La forza del destino

Opera pedair act

Cerddoriaeth Giuseppe Verdi

Cyfarwyddwr Christof Loy

Arweinydd Antonio Pappano

Christof Loy sy’n cyfarwyddo cast serennog o gantorion, yn cynnwys Anna Netrebko, Jonas Kaufmann a Ludovic Tézier, yn opera epig Verdi, dan ofal yr arweinydd Antonio Pappano.

Mae Leonora yn syrthio mewn cariad â Don Alvaro, ond pan fo ei thad yn gwahardd eu priodas, mae damwain angheuol yn achosi drama llawn obsesiwn, dial a thrasiedi. Jonas Kaufmann ac Anna Netrebko yw sêr epig Verdi La forza del destino (Grym Tynged).

Mae’n opera sy’n mynnu’r gorau gan y cantorion ar gyfer y gerddoriaeth bwerus ac yn gofyn am y driniaeth theatrig lawnaf ar gyfer y stori am siwrne faith o ddial milain.

Daw’r cynhyrchiad i’r Opera Brenhinol mewn llwyfaniad cyffrous o Amsterdam sy’n llawn lliw a digwyddiadau. Y cyfarwyddwr yw Christof Loy a’r arweinydd yw Antonio Pappano, Cyfarwyddwr Cerdd yr Opera Brenhinol.

Hyd yn fras:
4 awr 15 munud (yn cynnwys dwy egwyl)

Cenir yn Eidaleg gydag uwchdeitlau Saesneg

Dydd Sul 7 Ebrill 2pm

Prices and Times:

Sun 7th Apr

Pricing Information:

CategoryPrice
Full price:£ 14
Under 18's:£ 12
Full time students:£ 12
Senr.Citizens:£ 12
Other Conc.:£ 12