Taliesin Broadcast - ROH: Don Quixote (Fel yn Fyw 12A)

Overview:

Y Tŷ Opera Brenhinol

The Royal Ballet

Don Quixote

Bale tair act a phrolog

Coreograffi Carlos Acosta ar ôl Marius Petipa

Cerddoriaeth Ludwig Minkus


Trefniant a sgôr gan Martin Yates

Mae cariad a chyfeillgarwch yn gorchfygu yng nghynhyrchiad bywiog Carlos Acosta o’r bale rhagorol hwn.

Mae stori Cervantes am Don Quixote, y marchog di-glem, wedi ysbrydoli nifer di-rif o ddehongliadau artistig. Marius Petipa yw coreograffydd y bale rhagorol hwn am ornestau’r gŵr o La Mancha a’i sgweier ffyddlon, Sancho Panza. Yn ganolog i’r bale mae rhannau virtuoso i’r cariadon Basilio a Kitri.

Dewisodd Carlos Acosta y clasur llon hwn ar gyfer ei gynhyrchiad cyntaf gyda The Royal Ballet. Mae ei lwyfannu bywiog yn tynnu’r Cwmni i gyd ynghyd ar gyfer rhannau megis pentrefwyr hwyliog a sipsiwn nwydwyllt. Cawn hanes taith bicarésg Don Quixote wrth iddo gyflawni gorchestion er anrhydedd ei foneddiges ddychmygol, Dulcinea. Yn araul, swynol, doniol a theimladwy – mae Don Quixote yn fale sy’n llawn emosiwn dyrchafol a thechnegau bale syfrdanol.

Hyd yn fras:
 2 awr 45 munud (yn cynnwys un egwyl)

Dydd Sul 24 Chwefror 2pm

Prices and Times:

Sun 24th Feb

Pricing Information:

CategoryPrice
Full price:£ 14
Under 18's:£ 12
Full time students:£ 12
Senr.Citizens:£ 12
Other Conc.:£ 12