Taliesin Broadcast - ROH: The Queen of Spades (Fel yn fyw 12A)

Overview:

Y Tŷ Opera Brenhinol

The Queen of Spades

Opera tair act

Cerddoriaeth Pyotr il’yich Tchaikovsky

Cyfarwyddwr Stefan Herheim

Arweinydd Antonio Pappano

Mae opera fwyaf uchelgeisiol Tchaikovsky yn cynnwys rhai o’i ddarnau cerddorol gorau ac mae’n astudiaeth bwerus o obsesiwn dinistriol.

Yn opera angerddol Tchaikovsky ynghylch obsesiwn a’r uwch-naturiol, mae Gherman wedi ei ddal rhwng y ferch y mae’n ei charu ac obsesiwn dinistriol. Mae The Queen of Spades wedi ei seilio ar stori fer gan Pushkin, ac mae’n gynhyrchiad newydd yn y Tŷ Opera Brenhinol sydd eisoes wedi cael adolygiadau pum seren yn Amsterdam. Gosodir y cynhyrchiad ym 1890, blwyddyn premiere yr opera. Yn ei stydi, mae Tchaikovsky yn troi ei ddychymyg yn opera sy’n adrodd stori ei fywyd ef ei hun, gyda’r cymeriadau yn rhoi llais i’w ddyheadau nas gwireddwyd. Mae Aleksandrs Antonenko ac Eva-Maria Westbroek yn arwain y cast a Chorws yr Opera Brenhinol, dan ofal yr arweinydd Antonio Pappano, Cyfarwyddwr Cerdd yr Opera Brenhinol. Dyma bortread gafaelgar o artist creadigol mewn artaith ac enghraifft afaelgar o ddull gothig o adrodd stori.

Hyd yn fras:
 3 awr 30 munud (yn cynnwys un egwyl)

 Cenir yn Rwseg gydag uwchdeitlau Saesneg

Dydd Mawrth 22 Ionawr 6.45pm

Prices and Times:

Tue 22nd Jan

Pricing Information:

CategoryPrice
Full price:£ 14
Under 18's:£ 12
Full time students:£ 12
Senr.Citizens:£ 12
Other Conc.:£ 12