Taliesin Broadcast - The Importance of Being Earnest (As Live 12A)

Overview:

Classic Spring Theatre yn cyflwyno

The Importance of Being Earnest (Yn Fyw 12A)

Darllediad byw o Theatr Vaudeville, Llundain

Bydd cynhyrchiad newydd o un o’r dramâu doniolaf yn Saesneg, The Importance of Being Earnest gan Oscar Wilde yn cael ei ddarlledu’n fyw i sinemâu o Theatr Vaudeville y West End yn Llundain. Mae campwaith hynod o boblogaidd Wilde yn taflu cariad, rhesymeg ac iaith i’r awyr i greu un o sioeau tân gwyllt mwyaf disglair y byd theatr. Mae Jack, Algy, Gwendolyn a Cecily yn darganfod pa mor arw yw llwybr serch, tra bo’r Fonesig Bracknell yn cadw llygad sinistr ar yr anrhefn foesol. Dyma’r bedwaredd ddrama a’r olaf yn Nhymor Oscar Wilde, sef blwyddyn o ddathlu bywyd y dramodydd gwych Fictorianaidd a lwyfannir gan y Classic Spring Theatre Company.

Hyd yn fras: 2 awr 45 munud

Dydd Mawrth 9 Hydref 2018, 7.15pm

Prices and Times:

Tue 9th Oct

Pricing Information:

CategoryPrice
Full price:£ 14
Under 18's:£ 12
Full time students:£ 12
Senr.Citizens:£ 12
Other Conc.:£ 12