Prosiectau
Diben Taliesin yw cyfoethogi bywyd diwylliannol y rhanbarth drwy gyflwyno profiadau celfyddydol i gynulleidfaoedd yn ein lleoedd ac ar strydoedd Abertawe. Mae rhan allweddol o’r hyn a wnawn yn cynnwys cydweithio ag artistiaid, cynulleidfaoedd a chymunedau i greu cyd-brosiectau arloesol ac uchelgeisiol.
Rydym yn ceisio:
- Creu lle ar gyfer cydweithio a grymuso
- Gweithio gyda’n cymunedau i’n helpu ni i fod y sefydliad celfyddydol mwyaf perthnasol yn Abertawe wrth ystyried cynulleidfaoedd yn yr holl benderfyniadau
- Datblygu artistiaid syn rhannu ein gwerthoedd a’n gweledigaeth (gweler isod)
- Gweithio gydag artistiaid sy’n rhannu ein gwerthoedd a’n gweledigaeth, gan alluogi datblygiad a chydweithrediad wrth ddod â phrosiectau’n fyw.
- Galluogi safbwyntiau rhyngwladol i’w hystyried a’u deall ochr yn ochr â phroblemau lleol o bwys.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am brosiectau presennol a blaenorol Taliesin a’r bobl rydym ni’n gweithio gyda nhw yma.
Os hoffech chi weithio gyda Taliesin ar brosiect sy’n cyd-fynd â’n gweledigaeth yn eich barn chi, cysylltwch â Phennaeth Gwasanaethau Diwylliannol Taliesin, Simon Coates, yn simon.coates@abertawe.ac.uk
Gallwch gael gwybod rhagor am ddiben a gweledigaeth Taliesin yma.