Dyddiau Dawns 2022
Sadwrn 25 Mehefin - Sul 26 Mehefin | Taliesin yn Fyw
Parc Cwmdoncyn - Dydd Sadwrn 25 – Dydd Sul 26 Mehefin
Unwaith eto, mae Taliesin yn dod â pherfformwyr o’r radd flaenaf o bob cwr o’r DU a thu hwnt at ei gilydd, gan ddawnsio ochr yn ochr â grwpiau dawns cymunedol Abertawe.
Eleni, mae Taliesin yn dod â’r perfformiad dawns i chi yn yr awyr agored, dros ddau benwythnos. Bydd cyfle i chi fwynhau Diwrnodau Dawns Taliesin ym Mharc Cwmdoncyn, ddyddiau Sadwrn 25 a Sul 26 o Fehefin, a bydden ni yng nghanol y ddinas ddyddiau Sadwrn 9 a Sul 10 o Orffennaf.
Syrcas a parkour traddodiadol a chyfoes, mae’r rhaglen eleni yn cynnwys amrywiaeth ddisglair o ddawns. Mae’r ŵyl hefyd yn cynnig gweithdai y gellir eu harchebu ar gyfer pob oedran, taith gyffwrdd i bobl â nam ar eu golwg a sesiwn aros-a-chwarae i blant ifanc.
Peidiwch â cholli’r cyfle i roi cynnig ar sgiliau syrcas eleni, gydag un o hoff gwmnïau Abertawe, Circus Eruption, a gwyliwch gêm anghyffredin o chwarae cuddio a chwilio!
No booking necessary for Dance Days 2022. Simply turn up on the day and enjoy all there is to offer for FREE.
Parc Cwmdoncyn | Dydd Sadwrn 25 – Dydd Sul 26 Mehefin
Company Chameleon PUSH
Dydd Sadwrn 25 Mehefin [14:00pm & 16:10 pm] & Dydd Sul 26 Mehefin [13:15pm & 15:10pm]
Mae Push yn ddeuawd rymus a deniadol rhwng dau ddyn sy’n edrych ar y safbwyntiau gwahanol a gymerwn i ddeall ein gilydd ac ymwneud â’n gilydd. Mae’r darn yn archwilio natur gymhleth ein seicoleg – sut y byddwn ni’n gwthio weithiau i estyn rheolaeth a goruchafiaeth, ac ar adegau eraill yn dewis ildio a chamu’n ôl.
Mae Push, a grëwyd gan yr artistiaid dawns Anthony Missen a Kevin Edward Turner, yn rhan o drioleg sy’n arddangos arddull ddawns a symud athletaidd ond sensitif Chameleon i edrych ar themâu dan nawdd ymwneud dynion â’i gilydd.
Cyd-gomisiynwyd gan Without Walls a Dance Manchester.
Twitter @chameleon_info | Facebook @companychameleon | Instagram companychameleon
VDKL Kate Lawrence Vertical Dance Cuddio-Ceisio/Hide-Seek
Dydd Sadwrn 25 Mehefin [13:30pm & 15:45pm] & Dydd Sul 26 Mehefin [13:40pm & 15:40pm]
Cuddio-Ceisio / Hide-Seek
Gwiwerod Bywiog yn Hedfan wrth Hela a Herio
Perfformiad dawns fertigol gan VDKL gan ddefnyddio rhaffau a harneisiau
Bydd y gaeaf yn dod a bydd bwyd yn brin. Nawr yw’r adeg i hel a chuddio celc at wedyn. Mewn coeden ym Mharc Cwmdoncyn, mae dau greadur wrthi’n ddiwyd yn hel a chelu, yn ceisio a chwato eto. Edrychwch arnynt yn gwiwera o gwmpas, yn sgrialu lan a lawr, yn gwylio, syllu, siglo, neidio, llamu, cylchu, chwarae a dringo dros ei gilydd ac o gwmpas.
‘a beautiful event … It was really special.’ audience feedback
Comisiynwyd yn wreiddiol gan Llawn 04 . Tyfodd y datblygiad sgiliau coreograffi coed drwy gyfnewid ag Aeriosa yn Vacouver, Canada, dan nawdd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru.
Kate Lawrence - Vertical Dance Twitter @verticalkate
Circus Eruption Gweithdai
Dydd Sadwrn 25 Mehefin & Dydd Sul 26 Mehefin 11am - 1pm
Syrcas ieuenctid a leolir yn Abertawe yw Circus Eruption, sy’n cyflwyno gweithdai i bob oedran yn Dyddiau Dawns 2022.
Dewch i babell gweithdy’r syrcas ar draws dau benwythnos Dyddiau Dawns 2022. Archebwch slot, piciwch i mewn, a dysgwch grefft newydd gydag arweinwyr gweithdai syrcas – jyglo, troi plât, diabolo, a mwy!
11am – 1pm (piciwch draw unrhyw bryd)
Mae Circus Eruption yn cynnal gweithdai rheolaidd i bob oedran, sy’n gynhwysol a hygyrch, ac sy’n hybu datblygiad ymwybyddiaeth ofodol, cydlyniant, hyder a hunan-barch, ond uwchlaw popeth, sy’n annog cael llawer o sbort!
Sefydlwyd yn 1991 fel y syrcas ieuenctid integredig cyntaf yn y DU, mae Circus Eruption yn elusen a ganolir ar bobl ifanc gydag amrywiaeth, cynhwysiant, cydraddoldeb a hwyl yn greiddiol iddi. Defnyddir sgiliau syrcas fel offeryn i herio cyfyngiadau a osodir ar unigolion ganddyn nhw’u hunain a chan ganfyddiadau, gan alluogi pobl i sylweddoli a chredu yn eu potensial eu hunain a photensial eraill.
www.circuseruption.co.uk Facebook @CircusEruption | Twitter @CircusEruption
Llun: © Philip Rees Photography – Circus Eruption
The Lotus Sisters
Dydd Sadwrn 25 Mehefin [13:05pm & 15:20pm]
Mae The Lotus Sisters yn grŵp dawnsio bola chwedlonol a leolir yn Abertawe, ond daw’r dawnswyr o bob cwr o Dde Cymru. Yn aml bydd eu dawnsiau’n adrodd stori, ac maen nhw’n hoff o osod unrhyw beth y gallan nhw ddod o hyd iddynt i falansio ar eu pennau! Maen nhw wrth eu bodd yn gweld y gynulleidfa’n curo dwylo gyda nhw neu hyd yn oed ymuno yn y ddawns olaf!
Facebook @lotussistersbellydance | Instagram @lotussistersbellydance
Kitsch & Sync Collective - Topiary Trauma
Dydd Sul 26 Mehefin [12:00 pm & 14:45pm]
Dyma Daisy, Launa a Mo, ein gwragedd tŷ hudolus o swbwrbia heulog y 1950au, sydd wrth eu bodd yn pobi a garddio ar brynhawn Sul. Ond yn ddiweddar, maen nhw wedi bod yn cael trafferth gyda’u tocwaith… ydy’r gwragedd hamddenol hyn yn colli arnynt eu hunain, ynteu a yw’r llystyfiant yn dechrau meddwl drosto’i hun? Pwy a ŵyr?! Perfformiad dawns gomedi i’r teulu cyfan.
www.kitschandsync.co.uk Facebook @kitschnsynccollective | Twitter @KitschnSync1 | Instagram @kitschnsync1