Pinocchio
Iau 24 Tachwedd ,7pm | Taliesin
Jasmin Vardimon Company yn cyflwyno
Pinocchio
Mae’r Jasmin Vardimon Company yn cyflwyno addasiad newydd sbon o stori glasurol Pinocchio. Yn seiliedig ar y llyfr gwreiddiol gan Collodi ac yn cael ei berfformio gan ddawnswyr hynod dalentog Vardimon, bydd y cynhyrchiad hwn o Pinocchio yn dod â’r marionette enwog yn fyw wrth iddo gychwyn ar siwrnai wych i fod yn fachgen o gig a gwaed.
Bydd cyfle i fwynhau steil goreograffig a chyfarwyddol theatrig unigryw Vardimon a bydd Pinocchio yn cyfuno theatr gorfforol, cymeriadu hynod, technolegau arloesol, testun a dawns i astudio’r syniad o beth mae’n ei olygu i fod yn fod dynol.
Gyda hiwmor craff, drama i ymgolli ynddi ac arsylwi manwl ar ymddygiad, bydd Pinocchio yn mynd â chynulleidfaoedd ar siwrnai ragorol o ddarganfod oddi mewn i derfynau’r chwedl oesol ac annwyl yma.
‘Cydwybod yw’r llais bach llonydd hwnnw wnaiff pobl ddim gwrando arno.’ Carlo Collodi, Pinocchio
‘Forget about the Disney film: Jasmin Vardimon Company’s dance adaptation, which debuts this month, is an altogether darker adventure inspired by Carlo Collodi’s 19th-century novel’ GUARDIAN
Hyd y cynhyrchiad: 1 awr 30 munud (dim egwyl) Ar gyfer 7+ oed
Nos Iau 24 Tachwedd 7yh
Ticket Prices
- Full price: £ 14
- Family price: £ 32
- Under 18's: £ 10
- Full time students: £ 10
- Schools.: £ 8
- Senior Citizens: £ 10
- Other Concessions: £ 10
Pinocchio