Taliesin Live - AKA Tri: Joy

Overview:

CYNHYRCHIAD  THEATR MWLDAN

Antonio Forcione: Gitâr a llais cefnogol

Seckou Keita:  Kora a'r prif leisiau

Adriano Adewale: Offerynnau taro a llais cefnogol

Mae AKA Trio yn uwchgyfarfod cerddoriaeth byd rhwng tri phencampwr byd enwog: Antonio Forcione (Yr Eidal), Seckou Keita (Senegal) and Adriano Adewale (Brasil).

Mae Antonio Forcione, y gitarydd-cyfansoddwr o’r Eidal, wedi bod yn teithio’r byd am dros ddau ddegawd, gan ryddhau ugain albwm a chydweithio gyda nifer o artistiaid o bwys ar hyd y ffordd, gan gynnwys enwogion megis Charlie Haden, Trilok Gurtu, Angelique Kidjo a’r Bulgarian Voices, ymhlith nifer mwy. Seckou Keita o Senegal yw un o’r chwaraewyr kora gorau’r byd, yn gysylltiedig â nifer o brosiectau rhyngwladol, gan gynnwys ei deuawd arloesol gyda’r delynores Gymreig Catrin Finch, Africa Express gyda The Orchestra of Syrian Musicians, a’i brosiect Transparent Water gyda’r pianydd o Giwba, Omar Sosa. Mae Adriano Adewale, yr offerynnwr taro a’r cyfansoddwr o Frasil, wedi cydweithio â Bobby McFerrin, Joanna McGregor a Benjamin Taubkin ac mae wedi cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer cerddorfeydd a theatrau dawns.

Gyda’i gilydd maen nhw’n cydweithredu ac yn cyfuno i greu uniad rhyngwladol sy’n hyfryd o wreiddiol.

www.aka-trio.com

★★★★★ "[...] prepare to be astonished."   MICHAL BONCZA, MORNING STAR

“a palpable sense of rapport and delight in their music-making [...] leaving the audience clearly exhilarated”  THE SCOTSMAN

★★★★★ "These free-flowing songs and instrumentals dazzle with a rich musical, almost monastic, minimalism where less actually does mean"  MICHAL BONCZA, MORNING STAR

Nos Wener 22 Tachwedd 7.30pm

Prices and Times:

Fri 22nd Nov

Pricing Information:

CategoryPrice
Full price:£ 20
Under 18's:£ 18
Full time students:£ 18
Senr.Citizens:£ 18
Other Conc.:£ 18