Taliesin Live - Cwmni Dawns Ieuenctid y Sir

Overview:

Cwmni Dawns Ieuenctid y Sir

Bydd Cwmni Dawns Ieuenctid y Sir yn perfformio tri gwaith dawns gyfoes newydd yn eu hymweliad blynyddol â chanolfan Taliesin. Gyda chymorth gan ein chwaer gwmni Cwmni Theatr Ieuenctid Gorllewin Morgannwg, Taliesin, Ysgol Esgob Gore ac YMCA Abertawe mae Cwmni Dawns Ieuenctid y Sir yn dod â dawnswyr ynghyd o nifer o ysgolion cyfun a cholegau o bob cwr o’r De.

Mae’r dawnswyr rhwng 13 a 21 oed ac maen nhw wedi dangos dawn mewn dawns gyfoes a choreograffi. Crëwyd y gwaith gan y dawnswyr ifanc a’r coreograffwyr lleol Luke Ganz a Rebecca Edwards. Rydym yn croesawu ein Cwmni Graddedigion yn ôl hefyd – mae’r graddedigion yn cynnwys dawnswyr Cwmni Dawns Ieuenctid y Sir sydd wedi mynd ymlaen i astudio ar lefel addysg uwch – maen nhw’n dychwelyd i weithio gyda ni am bedwar diwrnod i greu darn o ddawns ar gyfer heno.

cydc.co.uk

Nos Iau 18 Ebrill 7.30pm

Prices and Times:

Thu 18th Apr

Pricing Information:

CategoryPrice
Full price:£ 8.75
Under 18's:£ 6.75
Full time students:£ 6.75
Senr.Citizens:£ 6.75
Other Conc.:£ 6.75