Taliesin Live - John Etheridge’s Sweet Chorus

Overview:

John Etheridge’s Sweet Chorus

Taith i ddathlu ugain mlynedd a phen-blwydd 70 oed ar y cyd 2019

Mae John Etheridge wedi ymddangos mewn sawl cyd-destun gwahanol, roedd ei ddeuawd hynod gyda’r gitarydd clasurol, John Williams, ymddangosiadau amrywiol The Soft Machine, The Zappatistas a Sweet Chorus, yn deyrnged bersonol i’w gyn-arweinydd band a’i fentor – y chwaraewr ffidil gwych Stephane Grappelli – y bu’n teithio fel rhan o’i gwmni i bedwar ban byd am bum mlynedd.

Dechreuodd y grŵp fel band ar gyfer un cyngerdd unigol, ond mae Sweet Chorus wedi perfformio cyngherddau di-ri yn y DU ac Ewrop a chynhyrchu tri albwm o fri.

Yn ogystal â gitarau John a ffidil anhygoel Chris Garrick, perthynas a ddisgrifir fel un o’r rhai mwyaf pwerus ym myd jazz Ewrop, mae’r band yn cael ei sbarduno gan frwdfrydedd Dave Kelbie (a fu’n perfformio gyda Django a la Creole) a’r chwaraewr bas o’r DU, Andy Crowdy.

"John Etheridge is an incredible guitarist... He is lyrical, dramatic, restrained yet over the top, simple yet complex, allowing him the music to take him where it will."  – Kev Rowland, Jazz Music Archives

john-etheridge.com

Nos Sadwrn 18 Mai 7.30pm

 

Prices and Times:

Sat 18th May

Pricing Information:

CategoryPrice
Full price:£ 14
Under 18's:£ 12
Full time students:£ 12
Senr.Citizens:£ 12
Other Conc.:£ 12