Taliesin Live - Opra Cymru: Fidelio

Overview:

Opra Cymru yn cyflwyno

FIDELIO

gan Ludwig van Beethoven

Fersiwn newydd Gymraeg gan Mererid Hopwood

Mae OPRA Cymru yn dathlu deng mlynedd ers eu cyngerdd agoriadol gyda fersiwn Gymraeg newydd o unig opera Beethoven, sef Fidelio. Dyma stori ysbrydoledig am ddewrder dynes sy’n achub ei gŵr rhag iddo gael ei ddienyddio am resymau gwleidyddol. Mae cerddoriaeth Beethoven yn dyst i’w brif gredoau mewn rhyddid, ffyddlondeb a chariad, ac mae’n cynnwys y gwaith enwog hwnnw ‘Corws y Carcharorion.’ Caiff yr opera ei hadrodd drwy eiriau Mererid Hopwood, y ddynes gyntaf erioed i ennill y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae’r cynhyrchiad hwn o Fidelio yn dilyn cynhyrchiad première arobryn Wythnos yng Nghymru Fydd gan Mererid Hopwood a Gareth Glyn.

Ysgrifennwyd yr opera yn y Gymraeg, ond diolch i’r ap ffôn symudol Sibrwd, bydd y perfformiadau yn ddealladwy i’r di-Gymraeg hefyd. Rhagor o wybodaeth yn http://sibrwd.com/?lang=cy

www.opra.cymru

Nos Iau 2 Mai 7.30pm

Prices and Times:

Thu 2nd May

Pricing Information:

CategoryPrice
Full price:£ 15
Family price:£ 30
Full time students:£ 5
Schools.:£ 5