Taliesin Live - Cwmwl Tystion / Witness

Overview:

CWMWL TYSTION / WITNESS

Tomos Williams - trwmped

Huw Warren – piano

Rhodri Davies – telyn, effeithiau trydanol

Francesca Simmons – ffidl, llif

Huw V Williams – bas

Mark O'Connor – drymiau

Simon Proffitt – celfyddyd weledol fyw

Mae'r trwmpedwr Tomos Williams wedi dod â chriw o gerddorion arbennig o Gymru ynghyd i berfformio cyfansoddiad newydd sydd yn ymdrin â'r presennol a digwyddiadau hanesyddol, gwleidyddol a cymdeithasol yng Nghymru.

Bydd y band yn perfformio suite newydd o gyfansoddiadau sy’n cynnwys elfennau o jazz, yr avant-garde, byrfyfyrio a cherddoriaeth werin Cymru. Daw'r enw 'Cwmwl Tystion' o waith un o feirdd pennaf Cymru, Waldo Williams, a bydd y gerddoriaeth yn 'tystio' i'r oes sydd ohoni.

 Hwn fydd y tro cynta' i Rhodri Davies (Hen Ogledd) a Huw Warren (Quercus) berfformio gyda'i gilydd – mae’r ddau yn gerddorion Cymreig unigryw a chanddyn nhw ddilynwyr yn fyd-eang. Mae Mark O'Connor, Huw V Williams a Francesca Simmons yn cynnig egni a phrofiadau cerddorol amrywiol a chyfoethog, a’r cyfan wedi’i ategu gan Simon Proffitt, a fydd yn creu delweddau gweledol byw wrth i'r cerddorion berfformio.

Mae cyfansoddiad newydd sy'n plethu adleisiau gwleidyddol Tryweryn ag arbrofion hyderus Rhodri Davies, neu chwerwder styyfnig y Llyfrau Gleision â cherddoroldeb telynegol Huw Warren a Tomos Williams, yn gwbl hanfodol, mewn oes lle mae democratiaeth yn crebachu a gwleidyddiaeth yn allgau." Jon Gower

 

Cafodd 'Suite Cwmwl Tystion' ei hariannu gan Dŷ Cerdd ac fe dderbyniodd y daith gefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Nos Wener 28 Mehefin 7.30pm

Prices and Times:

Fri 28th Jun

Pricing Information:

CategoryPrice
Full price:£ 12
Under 18's:£ 10
Full time students:£ 10
Senr.Citizens:£ 10
Other Conc.:£ 10