Taliesin Live - Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru: Awakening

Overview:

Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru

AWAKENING

Coreograffi gan: Fernando Melo, Caroline Finn a Marcos Morau.

Tair dawns unigryw i ddiddanu a syfrdanu.

"It is the overall beauty of this wonderful evening of very varied dance that totally captivates us all." Theatre in Wales

Mae Afterimage yn daith o luniau gwib; o ymddangos a diflannu. Defnyddir drychau ar y llwyfan i greu profiad theatraidd unigryw lle mae’r gorffennol a’r presennol yn gwrthdaro mewn dawns farddonol a chreadigol ei natur.

"Our perspectives confused, our minds bemused." British Theatre Guide

Mae Revellers’ Mass yn ymchwilio i fyd moethus llawn defodau. Mae grŵp annhebygol yn dod ynghyd am swper, lle caiff argyhoeddiad, traddodiad a defod gymdeithasol eu rhoi ar brawf mewn noson o rialtwch annisgwyl. Mae’r coreograffi bywiog a’r cymeriadau rhyfeddol wedi eu hysbrydoli gan ddarluniadau eiconig a digwyddiadau hanesyddol.

"Caroline Finn is definitely one to watch." Broadway Baby

Mae Tundra yn dirwedd hesb lle y daw creadigrwydd hynod fodern yn fyw. Mae’r ddawns hon yn gwyrdroi tudalennau  llyfrau hanes am ddawnsio gwerin Rwsiaidd, yr Undeb Sofietaidd a chwyldro, gan adfywio hen syniadau ag ystyr newydd. Mae’r dyluniad beiddgar wedi’i ysbrydoli gan gelf a sinema. Dyma ddawns sydd mor robotaidd o fanwl gywir, mae’n wefreiddiol o brydferth yn ogystal ag yn syfrdanol.

"...a fluid masterpiece of movement." Buzz Magazine

Tundra Awards: Best Dance Event of 2017 (Wales Arts Review) / Achievement in Dance (UK Theatre Awaards Nominee 2018) / Best Choreographer 2018 (Wales Arts  Awards)

Amser rhedeg: 2 awr (gan gynnwys dau egwyl) a sgwrs ôl-sioe am 15mnd

Nos Iau 4 Ebrill 7.30pm

ndcwales.co.uk

Daliwch cyn-sioe’r 'Awakening': Bydd perfformwyr o County Youth Dance Company yn perfformio darn byr o ddarn newydd y maent yn eu creu gyda'u tiwtor Luke Ganz sy'n Llysgennad Dawns, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Dydd Iau 4ydd o Ebrill  am 7 yh, i lawr y grisiau yn ‘Nhaliesin Create’.

Watch Dance Class: Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn agor y drysau i ddosbarth Cwmni gyda Gwylio Dosbarth Dawns. Nos Iau 4 Ebrill 12.45pm. Mae Gwylio Dosbarth Dawns yn rhad ac am ddim i fynychu ond archebu lle ymlaen llaw. Rhagor o wybodaeth.

Discover Dance: Darganfod dawns yw'r cyflwyniad perffaith i ddawnsio i deuluoedd ac ysgolion. Nos Wener 5 Ebrill 1pm (Canllaw oed: 7+). Rhagor o wybodaeth + i archebu.

 

Prices and Times:

Thu 4th Apr

Pricing Information:

CategoryPrice
Full price:£ 14
Under 18's:£ 12
Full time students:£ 12
Schools.:£ 8
Senr.Citizens:£ 12
Other Conc.:£ 12