Taliesin Live - Opera Cenedlaethol Cymru: Don Pasquale

Overview:

Don Pasquale

Donizetti

Gyda libreto newydd yn Saesneg gan Daisy Evans

Cyfarwyddwr: Daisy Evans

Dilynwch orchestion Don Pasquale yn y fersiwn newydd derfysglyd hon o opera gomedi clasurol Donizetti. Wedi’i lleoli yn fan doner cebab Pasquale ac o’i chwmpas, cawn stori rithdybiau rhamantus hen lanc a’r cariadon ifanc sy’n ei drechu.

Daw Don Pasquale â chast o gymeriadau hynod fywiog ynghyd, gan gynnwys nai ifanc Pasquale, Ernesto a’i gariad Norina, yn ogystal â dyn lleol, Malatesta a’i fand teithiol sy’n ymgasglu y tu allan i fan cebab Pasquale ar ôl eu nosweithiau hirion o yfed.

Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn dod â chynhyrchiad newydd gwych Daisy Evans i leoliadau ledled Cymru a Lloegr trwy gydol haf 2019, ac yn dilyn llwyddiant Rhondda Rips It Up! gan Elena Langer yn 2018.

Mae Don Pasquale yn cynnwys cast bach a cherddorfa ar y llwyfan fel na welsoch na chlywsoch eu mathau erioed o’r blaen.

2 awr 30 munud, gan gynnwys egwyl 20min

wno.org.uk

#WNOpasquale

Nos Sadwrn 1 Mehefin 7.30pm

Prices and Times:

Sat 1st Jun

Pricing Information:

CategoryPrice
Full price:£ 19
Under 18's:£ 17
Full time students:£ 17
Senr.Citizens:£ 17
Other Conc.:£ 17