Taliesin Live - Swansea City Opera: Cosi fan tutte

Overview:

COSI FAN TUTTE

gan Mozart

“Utterly glorious” South Wales Evening Post

Mae’n braf croesawu Opera Dinas Abertawe yn ôl gyda chynhyrchiad o Così fan tutte, opera gomig, boblogaidd ac anfarwol o ddigri Mozart. Mae cwmni opera’r ddinas yn enwog am eu perfformiadau lliwgar o opera comig, a dyw eu fersiwn nhw o Così ddim gwahanol.

Mae'r cynhyrchiad hyfryd hwn o Così fan Tutte, a genir yn Saesneg, gyda gwisgoedd clasurol, cain, o'r 19eg ganrif, yn gyfle i glywed rhai o gantorion a cherddorion gorau'r wlad. Mae’n cynnwys cerddoriaeth sydd gyda gwaith mwyaf cyfareddol Mozart, dyma noson o adloniant swynol a thra digrif - gwledd i'r llygaid a'r clustiau.

Mae'r stori ddigrif hon o dwyllo, drwgdybio, defosiwn a helyntion cariad rhamantus - yr honnir ei bod yn seiliedig ar stori wir - yn adrodd sut mae hen ŵr sinigaidd (Don Alfonso) yn perswadio dau swyddog diniwed i gymryd rhan mewn bet warthus: i brofi nad yw bod yn ffyddlon yn  natur menywod - 'Così fan tutte' - mae pob menyw'r un fath. Wrth i'r stori ddatblygu, gwelwn i ba raddau mae'n llwyddo; i ddechrau, nid yw'r menywod yn fodlon, ond ymhen amser...wel, mae'n rhaid i chi aros i weld!

Bydd sgwrs cyn y perfformiad am yr opera a’r cynhyrchiad am 6.15pm, gan Brendan Wheatley, Cyfarwyddwr Artistig Opera Dinas Abertawe.

 

Dyma sylwadau'r papurau am ein taith ddiweddar o The Barber of Seville:

"Roedd yr opera gomig yn wych! Cast o gantorion rhagorol...pe bai pob cynhyrchiad opera cystal â hwn, byddwn i'n buddsoddi mewn pâr o sbectol opera heddiw!" Swansea Evening Post

"Pleser pur! Roedd yn hyfryd clywed lleisiau wedi'u hyfforddi i safon uchel yn llenwi'r Queen's Theatre, hyd yn oed wrth ganu'n bianissimo...y canlyniad oedd theatr llawn sŵn chwerthin...allai Rossini fod wedi gofyn am fwy?" South Devon Journal

Hyd: 3awr gan gynnwys egwyl

Nos Wener 22 Mawrth 7.30pm

Prices and Times:

Fri 22nd Mar

Pricing Information:

CategoryPrice
Full price:£ 20
Under 18's:£ 18
Full time students:£ 18
Senr.Citizens:£ 18
Other Conc.:£ 18