Taliesin Live - Miss Julie

Overview:

Gan August Strindberg

Cynhyrchiad Theatrau RhCT gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru.

Wedi'i gyfarwyddo gan Gareth John Bale, sydd hefyd yn serenu yn y sioe!

Addasiad newydd sbon o'r ddrama gyffrous yma, wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

Gŵyl Ifan yw hoff gyfnod Miss Julie. Mae'n noswaith llawn dyhead, pan fydd rheolau yn cael eu torri, rhwystrau dosbarth yn cael eu gosod o'r neilltu a gall meistres ifanc y maenordy ddawnsio gyda phwy bynnag y mae hi ei eisiau.   Mae hi'n dewis Jean, gwas ei thad, ac am ychydig oriau drwy'r cyfnos hir maen nhw'n chwarae gêm sy'n gynyddol beryglus o 'beth os'?

Wedi'i osod ar droad yr ugeinfed ganrif, mae'r adfywiad cyffrous yma o sioe glasurol Strindberg yn llawn angerdd, pŵer... a chwant!

Oedrannau 14+

Hyd y cynhyrchiad; 1awr (dim egwyl)

Nos Sadwrn 21 Ebrill 7.30pm

Prices and Times:

Sat 21st Apr

Pricing Information:

CategoryPrice
Full price:£ 12
Under 18's:£ 10
Full time students:£ 10
Senr.Citizens:£ 10
Other Conc.:£ 10

View Preview:

Mae hwn yn berfformiad Iaith Gymraeg.

Mae'r iaith wedi'i symleiddio ac yn addas i ddysgwyr canolig i uwch.

 

Y Cast

Gareth John Bale

Non Haf

Gwenllian Higginson

 

Y Plot

Gŵyl Ifan yw hoff gyfnod Miss Julie. Mae'n noswaith llawn dyhead, pan fydd rheolau yn cael eu torri, rhwystrau dosbarth yn cael eu gosod o'r neilltu a gall meistres ifanc y maenordy ddawnsio gyda phwy bynnag y mae hi ei eisiau.   Mae hi'n dewis Jean, gwas ei thad, ac am ychydig oriau drwy'r cyfnos hir maen nhw'n chwarae gêm sy'n gynyddol beryglus o 'beth os'?

Er ei bod wedi'i gosod yn niwedd yr 20fed ganrif, mae'r themâu mor berthnasol heddiw ag erioed. Mae'n ddadansoddiad llym o ddosbarth cymdeithasol, arian, cydraddoldeb rhywiol a'r posibilrwydd o fudoledd cymdeithasol.