Taliesin Live - Swansea City Opera: The Barber of Seville

Overview:

Opera Dinas Abertawe 

The Barber of Seville

gan Rossini

Y canu yn Saesneg

Cynlluniwyd gan Gary McCann

Cyfarwyddwyd gan Brendan Wheatley gyda chyfeiliant gan gerddorfa Opera Dinas Abertawe.                                

Mae Opera Dinas Abertawe yn cyflwyno adfywiad o’u cynhyrchiad hynod lwyddiannus yn 2011 o Barber of Seville, opera enwocaf Rossini - opera graff sy’n llawn troeon a digwyddiadau annisgwyl. 

O aria gyntaf enwog Figaro, ‘Largo al factotum’, i orffwylledd finale Act I, mae Barber of Seville yn adloniant afieithus. Peidiwch â cholli’r opera hwyliog yma sydd bob amser yn siriol a llon.

Mae Opera Dinas Abertawe yn enwog ledled y DU am ei pherfformiadau difyr a safonol o operâu comig a dydi’r perfformiad disglair yma ddim yn eithriad. Yn cael ei ganu yn y Saesneg, mae’r cynhyrchiad wedi’i leoli yn Seville yn y 18fed ganrif gyda gwisgoedd nodedig o’r cyfnod i ategu bwrlwm a thân athrylith cerddorol Rossini. Mae’n berffaith ar gyfer y rhai sy’n mynychu’r opera’n gyson a hefyd i’r rhai sydd eisiau cael profiad cyntaf o’r byd yma.    

Bydd sgwrs cyn y perfformiad am yr opera a’r cynhyrchiad am 6.15pm gyda Chyfarwyddwr Artistig Opera Dinas Abertawe, Brendan Wheatley.

“From the moment the curtain rose it was apparent this performance was going to be something special.”

“This sparkling production was carried off at a pace that never flagged.”

Nos Wener 23 Mawrth 7.30pm

Spice.png

 

Prices and Times:

Fri 23rd Mar

Pricing Information:

CategoryPrice
Full price:£ 20
Under 18's:£ 18
Full time students:£ 18
Senr.Citizens:£ 18
Other Conc.:£ 18