Taliesin Live - Pixelated Squid and the Universe

Overview:

Tentacle Tribe & Karol Cysewski

Pixelated Squid a The Universe


Gwyddoniaeth ryfedd yn cwrdd â hip-hop mewn perfformiad dawns dwbl sy'n arallfydol...

Mewn noson o ddawns, comedi ac eithafoedd, mae'r perfformiad dwbl hwn yn mynd â chynulleidfaoedd ar daith o waelod y môr i ben pellaf y bydysawd.

Mae'r deuawd hip-hop o Ganada a Sweden, Emmanuelle Lê Phan ac Elon Höglund, sy'n cael eu hadnabod hefyd fel Tentacle Tribe, yn dod â'u cynhyrchiad, Nobody Likes a Pixelated Squid, i Gymru mewn perfformiad a ysbrydolwyd gan greaduriaid tir a môr. Mae'r dawnswyr stryd dynamig hyn wedi gwerthu pob tocyn yn eu sioeau ledled y byd a'u perfformiad nodedig am greaduriaid fydd arlwy hanner y noson hon o ddawnsio gwefreiddiol, difyr ac addysgol.

Mae Wonders of the Universe, gan Karol Cysewski o Gymru, yn berfformiad tra gwahanol, gan gynnig dehongliad difyr ac ysgogol o'r rhaglen ddogfen o'r un enw. Mae tri gic a gwyddonydd enwog (llais Brian Cox) yn cyflwyno cipolwg creadigol ar ddechreuad y bydysawd.

Bydd y ddau berfformiad yn gwneud i chi feddwl, chwerthin ac edrych ar y byd mewn ffordd wahanol. O greaduriaid bychain y môr a'r awyr, rhai pethau eithaf pysgodol sydd wrth wraidd esblygiad dynol, i holl ryfeddodau'r bydysawd.

 

www.squiduniverse.com

 

Nos Sadwrn 27 Chwefror 7.30yh

Spice_logo.jpg

Prices and Times:

Sat 27th Feb

Pricing Information:

CategoryPrice
Full price:£ 11
Family price:£ 28
Under 18's:£ 9
Full time students:£ 9
Senr.Citizens:£ 9
Other Conc.:£ 9