Ein gweledigaeth
Prifysgol Abertawe sy'n berchen ar Ganolfan y Celfyddydau Taliesin, ac yn ei gweithredu. Mae'r Ganolfan yn cael ei chydnabod yn Ganolfan Ranbarthol y Celfyddydau Perfformio.
Dyma rai elfennau pwysig y byddwch, o bosibl, eisiau eu gwybod am ein gweledigaeth, a'n safonau a lefelau gwasanaeth.
Yn Taliesin, rydym yn ymdrechu i wneud y canlynol:
- Cynnal ein henw da o ran amrywiaeth a rhagoriaeth greadigol.
- Sicrhau bod Taliesin yn lle croesawgar a chyfeillgar.
- Datblygu'r brand drwy arwain, cefnogi ac arloesi ym myd diwylliannol Abertawe a Chymru gyfan. Byddwn yn gwneud hyn drwy fynd â'n cynyrchiadau allan o'r theatr – er enghraifft, drwy gynnal ein gŵyl ddawns flynyddol, ‘Dyddiau Dawns’, yng nghanol y ddinas, a thrwy fynd â'n cyd-gynyrchiadau a'n cynyrchiadau ein hunain ar daith i fannau eraill ar hyd a lled Cymru a'r tu hwnt. Rhagor o wybodaeth
- Cefnogi doniau creadigol pobl ifainc drwy greu cyfleoedd i ysgolion a grwpiau'r gymuned gymryd rhan mewn gweithdai a pherfformiadau yn Taliesin. Rhagor o wybodaeth
- Sicrhau bod popeth a wnawn yn hygyrch i bawb. Rhagor o wybodaeth
Yn Taliesin, rydym wedi ymrwymo i'r canlynol:
- Sicrhau bod ein safle'n lân ac yn daclus, gydag arwyddion clir i'ch helpu i ddod o hyd i'ch ffordd o amgylch yr adeilad.
- Bydd staff Taliesin yn gyfeillgar, yn groesawgar, ac yn gwrtais.
- Bydd bathodynnau enwau yn ei gwneud yn haws adnabod pob aelod o'r staff rheng flaen. Bydd stiwardiaid Taliesin hefyd yn gwisgo gwisg unffurf.
- Bydd aelodau o'r staff yn cael eu hyfforddi mewn darparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid. Byddant yn gyfarwydd â'r digwyddiadau a'r gwasanaethau rydym yn eu darparu.
- Byddwn yn ymateb yn brydlon ac yn gwrtais i gwestiynau ac i gwynion. Byddwn yn ceisio ateb pob ymholiad yn y man cyswllt cyntaf. Os na fydd hyn yn bosibl, bydd yr ymholiad yn cael ei gyfeirio at aelod priodol o'n tîm. Rhagor o wybodaeth