Great Hall Music - Cerddorfa OCC: A Night in Vienna

Overview:

Cerddorfa OCC

Noson yn Fienna

Yn dilyn cyngerdd a gafodd groeso eithriadol yn 2018, mae Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru yn dychwelyd ym mis Ionawr gyda chyngerdd Blwyddyn Newydd poblogaidd arall.

Yn ein rhaglen eleni mae gennym nid yn unig ein cerddorfa ddawnus, ond hefyd ddimensiwn newydd a phriodol caneuon, a fydd yn sicr o ddod ag ysbryd Fienna a'i neuaddau cyngerdd yn fyw. Dan gyfarwyddyd medrus ein Blaenwr ac Arweinydd Cerddorfa, David Adams, mae'r cyngerdd yn agor gydag ynni anorchfygol Agorawd Oberon gan Weber. Yna cawn fwynhau David fel unawdydd yn chwarae gweithiau cain a meistrolgar gan Fritz Kreisler.

Yn unol â thraddodiad blynyddoedd maith, bydd y Gerddorfa wedyn yn eich arwain drwy ddetholiad hyfryd o waltsiau, polcas a chaneuon Fiennaidd sy'n adnabyddus a hoff gan lawer ledled y byd. Bydd Cân Chwerthin Strauss, Csárdás, Vilja o waith Lehar, y Blue Danube fytholwyrdd a’r Radetsky March cynhyrfus yn sicr o wneud hon yn Flwyddyn Newydd Dda Iawn i chi gan Opera Cenedlaethol Cymru!

Nos Wener 4 Ionawr 7.30pm

Prices and Times:

Fri 4th Jan

Pricing Information:

CategoryPrice
Full price:£ 21
Under 18's:£ 16
Full time students:£ 5
Senr.Citizens:£ 16
Other Conc.:£ 16