Great Hall Literary Events - Pip Broughton and Matthew Hall

Overview:

Cyfres Darlithoedd Canmlwyddiant Prifysgol Abertawe
Curadur a chyflwynydd yr Athro Creadigrwydd, Owen Sheers

 PIP BROUGHTON AND MATTHEW HALL
Keeping Faith/Un Bore Mercher, stori am lwyddiant drama, o’r sgript i’r sgrin

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae’r gyfres ddwyieithog, Keeping Faith/Un Bore Mercher,
wedi bod yn ffenomen ar y teledu. Mae’r gyfres, a leolir yn Nhalacharn, gydag Eve Myles yn y brif rôl, wedi tyfu o ddechrau tawel i ffigurau gwylio enfawr a darllediad ar y rhwydwaith cenedlaethol, a disgwylir ail gyfres yn 2019. Dewch i wrando ar y cyfarwyddwr, Pip Broughton, a’r ysgrifennwr, Matthew Hall, wrth iddynt drafod yr antur greadigol, tarddiad y stori, ei thaith o’r dudalen i’r sgrîn a’r we hanfodol o berthnasoedd rhwng y cast, y cyfarwyddwr, yr ysgrifennwr a’r darlledwr sydd wedi gwneud eu drama’n llwyddiant ysgubol.

Bydd Pip a Matthew yn sgwrsio â’r Athro Creadigrwydd, Owen Sheers, ac yn dangos darnau byr o’r gyfres i egluro eu sgwrs. Ar ôl y sgwrs bydd sesiwn holi ac ateb.

‘A must-see, must-talk about drama’    THE RADIO TIMES

Noddir gan Gymdeithas Adeiladu Abertawe

Dydd Iau 13 Rhagfyr 7.30pm

Prices and Times:

Thu 13th Dec

Pricing Information:

CategoryPrice
Full price:£ 8
Under 18's:£ 5
Full time students:£ 5
Schools.:£ 5