Sioe Nadolig
Gwener 7 Tachwedd - Iau 18 Rhagfyr ,Llun-Gwen 10am-6pm Sadwrn 10am-1pm, 1.30pm-4pm (ar agor tan 8pm ar nosweithiau perfformiadau) | Taliesin
Cynhelir Sioe Nadolig Oriel Ceri Richards bob blwyddyn, ac mae'n cyfuno amrywiaeth o arddulliau a genres, mewn arddangosfa gymysg o gelf gyda rhywbeth y gall pawb ei fforddio. Dyma gyfle i chi ddod o hyd i ddetholiad eang o grefftwaith a gemwaith fforddiadwy a hardd. Eleni, bydd yr arddangosfa'n amlygu artistiaid o Abertawe a'r cyffiniau; yn falch o fod ym man geni Dylan Thomas.
Mae Oriel Ceri Richards yn arddangos amrywiaeth o weithiau, gan gynnwys paentiadau, serameg, tecstilau, ffotograffiaeth a gwaith gwydr.
Mae Cynllun Casglu Cyngor Celfyddydau Cymru yn cynnig credyd di-log (yn amodol ar statws) ar gyfer prynu celf gain a chrefftau cynllunydd o £50 i £2,000.
Mae'r Oriel yn lleoliad delfrydol i gynnal digwyddiadau yn ystod y nos, o flasu gwin i grwpiau cymdeithasol. Cysylltwch â Rheolwr yr Oriel ar 01792 602867 am ragor o fanylion.
Ticket Prices
Sioe Nadolig