Gwasanaethau Cwsmeriaid
GWEITHDREFN ACHWYN
Gallwch gwyno yn bersonol, yn ysgrifenedig neu drwy e-bost
Canolfan y Celfyddydau Taliesin
Prifysgol Abertawe
Parc Singleton
Abertawe
SA2 8PZ
customerservice@taliesinartscentre.co.uk
Ein nod yw datrys eich cwyn yn effeithlon ac o fewn yr amserlenni canlynol:
- Byddwn yn cydnabod eich sylwadau o fewn 3 diwrnod gwaith o'u derbyn a byddwn yn ymateb o fewn 15 diwrnod gwaith i'ch hysbysu am ein canfyddiadau.
- Os ydych chi'n anhapus o ran unrhyw elfen o'n hymateb gallwch gysylltu â ni eto yn nodi eich pryderon ac, os yn berthnasol, caiff ein canfyddiadau a'n datrysiad arfaethedig eu hadolygu gan uwch reolwr.
SIARTER CWSMERIAID CANOLFAN Y CELFYDDYDAU TALIESIN
Myfyrwyr/Ymwelwyr/Defnyddwyr
Mae Prifysgol Abertawe yn berchen ar Ganolfan y Celfyddydau Taliesin ac yn ei gweithredu. Fe'i cydnabyddir fel Canolfan Celfyddydau Perfformio Ranbarthol.
Mae'r ganolfan yn cynnal rhaglen eang o ddigwyddiadau, gan gynnwys sgrinio ffilmiau, arddangosfeydd teithiol ac amrywiaeth fawr o berfformiadau byw, o ddawns a drama i jazz a cherddoriaeth y byd. Ar gyfartaledd mae Oriel Ceri Richards yn cyflwyno wyth arddangosfa o gelf gyfoes y flwyddyn yn ogystal â chynnig ystod o grefftau ac anrhegion gan ddylunwyr i'w prynu.
Rhoddir pwyslais ar ansawdd ac arloesed yn Nhaliesin - gan ddarparu gwasanaeth hanfodol i fyfyrwyr a phobl Abertawe gan weithredu fel canolfan ragoriaeth ranbarthol.
Ein Gweledigaeth
- Cadw ein henw da am ragoriaeth ac amrywiaeth greadigol.
- Sicrhau bod Taliesin yn amgylchedd croesawgar a chyfeillgar.
- Datblygu ein brand fel arweinydd, cefnogwr ac arloeswr ym mywyd diwylliannol Abertawe a Chymru gyfan. Byddwn yn cyflawni hyn trwy fynd â'n cynyrchiadau y tu allan i'r theatr, er enghraifft trwy ein gŵyl Diwrnodau Dawns yng nghanol y ddinas a thrwy fynd â'n cynyrchiadau ein hun a chyd-gynyrchiadau ar daith i leoliadau eraill ar draws Cymru a'r tu hwnt i Gymru.
- Cefnogi doniau artistig pobl ifainc trwy greu cyfleoedd i grwpiau cymunedol ac ysgolion gymryd rhan mewn gweithdai a pherfformiadau yn Nhaliesin.
- Sicrhau bod popeth rydym yn ei wneud yn hygyrch i bawb.
Safonau a Lefelau Gwasanaeth
- Bydd ein hadeiladau yn lan ac yn daclus a bydd arwyddion clir i'ch helpu i deithio o amgylch yr adeilad.
- Bydd staff Taliesin yn gyfeillgar, yn groesawgar ac yn gwrtais.
- Bydd modd adnabod pob un o'r staff rheng flaen yn hawdd trwy fathodynnau enw, bydd stiwardiaid Taliesin hefyd yn gwisgo gwisg swyddogol.
- Mae'r staff wedi'u hyfforddi i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid ardderchog. Byddant yn llawn gwybodaeth am y digwyddiadau a'r gwasanaethau rydym yn eu darparu.
- Byddwn yn ymateb i gwestiynau a chwynion yn brydlon ac yn gwrtais. Rydym yn anelu at ateb pob ymholiad yn ystod y pwynt cyswllt cyntaf. Os nad yw hyn yn bosib caiff yr ymholiad ei gyfeirio at aelod tîm priodol.
Hygyrchedd
- Mae Taliesin wedi cael ei llunio gan roi pwyslais ar hygyrchedd i bawb.
- Byddwn yn gweithio'n galed i sicrhau bod ein hadeilad mor ddefnyddiwr-gyfeillgar â phosib.
- Mae'r awditoriwm yn hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn.
- Mae gan y bar a'r swyddfa docynnau gownteri is sy'n hygyrch i bawb.
- Gall defnyddwyr cadair olwyn sydd yng nghwmni cynorthwyydd dderbyn tocyn am ddim i'w cynorthwyydd (digwyddiadau Taliesin yn unig). Gofynnwch am hyn wrth archebu.
- Mae cyfleusterau tŷ bach hygyrch wedi'u lleoli yn y cyntedd.
- Croesawir cŵn cymorth cofrestredig.
- Mae gennym ddolen glyw yn ein hawditoriwm a system clyw is-goch i'w defnyddio gyda'n clustffonau. Ar gyrraedd cysylltwch â'r Rheolwr Blaen y Tŷ i fenthyg clustffonau. Mae modd eu defnyddio gyda chymhorthion clyw neu heb gymhorthion clyw. Rydym hefyd yn darparu clustffonau ar gyfer disgrifiadau sain pan fod y gwasanaeth hwn ar gael.
Os ydych yn profi unrhyw broblemau hygyrchedd wrth ymweld â Thaliesin cysylltwch ag aelod staff a fydd yn eich cynorthwyo.
- Byddwn yn gwneud ein gorau glas i sicrhau bod yr holl ddeunydd print wedi'i ddiweddaru gan sicrhau bod gwybodaeth ar gael mewn print bras, Braille neu yn y Gymraeg ar gais.
- Byddwn yn defnyddio iaith glir a syml yn ein cyhoeddiadau a'n gohebiaeth.
- Bydd yr holl ddeunydd print yn gywir adeg argraffu.
Cyfleusterau
Rheolir y Caffi/Bar yn Nhaliesin gan Arlwyo ar y Campws. Yn ystod nosweithiau perfformiadau caiff y bar ei agor 90 munud cyn y perfformiad.
Mae Taliesin hefyd yn gartref i'r Ganolfan Eifftaidd. Mae banc Lloyds, peiriant arian parod a siop lyfrau John Smith wedi'u lleoli ar y llawr cyntaf.
Cysylltu â ni
Y Swyddfa Docynnau
Yn bersonol wrth y cownter
- Dydd Llun i ddydd Gwener: 10.00am tan 5.00pm (os oes perfformiad gyda'r hwyr bydd y swyddfa docynnau'n cau 15 munud ar ôl i'r digwyddiad gychwyn).
- Dydd Sadwrn 10.00am tan 1.00pm a 1.30pm tan 4.00pm (os oes perfformiad gyda'r hwyr bydd y swyddfa docynnau'n agor am 4.30pm ac yn cau 15 munud ar ôl i'r digwyddiad gychwyn).
- Dydd Sul yn agor am 5.00pm os oes perfformiad, gan gau 15 munud ar ôl i'r digwyddiad gychwyn.
Dros y Ffôn
- Bydd llinell ffôn ein swyddfa docynnau (01792 60 20 60) ar agor ddydd Llun i ddydd Gwener 10.00am tan 5.00pm, dydd Sadwrn 10.00am tan 1.00pm a 1.30pm tan 4.00pm. Pan fydd perfformiad gyda'r hwyr bydd llinell ffôn y swyddfa docynnau yn aros ar agor tan 30 munud cyn i'r perfformiad gychwyn.
- Pe bai angen cymorth dros y ffon arnoch ar ôl yr amser hwn bydd swyddog wrth y dderbynfa ar nosweithiau perfformiadau gyda'r hwyr ac mae modd cysylltu ag ef ar 01792 295567.
Defnyddio'r rhyngrwyd
- Gallwch archebu tocynnau ar-lein ar y wefan hon.
- Byddwn yn sicrhau bod ein gwefan yn hawdd ei defnyddio ac yn ddefnyddiwr-gyfeillgar. Bydd y wybodaeth wedi'i diweddaru a byddwn yn defnyddio iaith glir a syml.
Adrannau Eraill
- Ar nosweithiau perfformiadau bydd aelod staff yn bresennol wrth y dderbynfa o 5.00pm tan amser cau. Mae'r Rheolwr Blaen y Tŷ hefyd ar gael yn ystod nosweithiau perfformiadau. Rhif ffôn y Ddesg Flaen yw 01792 295567.
- Mae modd cysylltu gydag adrannau eraill yn ystod oriau swyddfa arferol. Ceir rhifau ffôn adrannau ar ein gwefan.
- Caiff pob gohebiaeth ei chydnabod o fewn 3 diwrnod gwaith o'i derbyn.
- Byddwn yn ymateb gan ddefnyddio iaith glir a syml.
Eich Sylwadau a Gwneud Cwyn
- Byddwn yn monitro safonau ein gwasanaeth yn barhaol a byddwn yn gwrando ar farn ein cwsmeriaid gan wneud gwelliannau yn ôl yr angen.
- Os hoffech chi roi sylw ar un o'n gwasanaethau boed yn dda neu'n ddrwg anfonwch e-bost i customerservice@taliesinartscentre.co.uk
- Ceir manylion am ein gweithdrefn achwyn ar ein gwefan ac ar gais.