Paper Moon
Mercher 18 Mai 7.30yh | Sinema Taliesin
Cyf: Peter Bogdanovich
1973 UDA 1awr 42mnd
Ryan O’Neal, Tatum O’Neal, Madeline Kahn
I ddathlu un o gyfarwyddwyr mawr America,mae Taliesin yn falch o gyflwyno cyfle prin i weld Paper Moon Peter Bogdanovich ar y sgrîn fawr.
“Paper Moon o hyd yw’r mwyaf hudol a hygyrch o ymdrechion cyfarwyddo Bogdanovich, a hynny mewn modd diymdrech. Comedi du a gwyn chwerwfelys o oes y Dirwasgiad lle mae Ryan O’Neal a Tatum O’Neal, sy’n dad a merch go iawn, yn teithio ar hap ar draws America, yn gwerthu Beiblau i deuluoedd sy’n galaru, ac yn dweud llu o gelwyddau i’w helpu ar eu ffordd. Enillodd Tatum, oedd yn naw oed, Oscar am ei pherfformiad, sy’n un o’r rolau mwyaf gafaelgar i droi plentyn yn seren, ond heb fod yn sentimental, ac mae’r ffilm gyfan yn adrodd y stori’n ddigynnwrf hyderus, gan ddefnyddio hud drygionus twyllwyr medrus ar y sgrîn.” Ian Mangan, BFI.
Ticket Prices
- Full price: £ 7.75
- Under 18's: £ 6.50
- Full time students: £ 6.50
- Senior Citizens: £ 6.50
- Other Concessions: £ 6.50
Paper Moon