Jump to content
Swyddfa Docynnau 01792 60 20 60

Taliesin o Gartref: Sisters with Transistors 

Gwener 23 Ebrill - Llun 7 Mehefin | Taliesin

SISTERS WITH TRANSISTORS PG


Cyf:  Lisa Rovner   

Ffilm ddogfen, y DU

hyd y ffilm: 1 awr 24 munud

 

Mae SISTERS WITH TRANSISTORS yn stori heb ei hadrodd am arloeswragedd cerddoriaeth electronig, cyfansoddwyr anhygoel a groesawodd allu peiriannau a'u technolegau rhyddhaol i drawsnewid yn llwyr sut rydym yn cynhyrchu ac yn gwrando ar gerddoriaeth heddiw. 

Mae byd anhygoel cerddoriaeth electronig wedi parhau i ddatblygu ers ei ddechreuad ar ddechrau'r 20fed ganrif. O bosibiliadau diddiwedd syntheseiswyr digidol, i adfywiad diweddar recordio analog; o gywair tra pherffaith Auto-Tune, i ddemocrateiddio creu cerddoriaeth ar gyfer cenhedlaeth o gynhyrchwyr 'ystafell wely' - mae pob un o'r datblygiadau neilltuol hyn yn gysylltiad uniongyrchol i waith a chelfyddyd y menywod yn;Sisters with Transistors.  Mae Clara Rockmore, Daphne Oram, Bebe Barron, Delia Derbyshire, Maryanne Amacher, Pauline Oliveros, Wendy Carlos, Eliane Radigue, Suzanne Ciani, a Laurie Spiegel ymhlith arloeswyr mwyaf seiniau modern ac rydym yn parhau i deimlo eu dylanwad ac eto nid yw llawer o bobl erioed wedi clywed amdanynt. 

 

Mae'r ffilm hon yn cynnwys llawer o oleuadau'n fflachio a allai effeithio ar gwsmeriaid sy'n agored i epilepsi goleusensitif.