Taliesin Cinema - When Two Worlds Collide

Overview:

Cyfarwyddwyr: Heidi Brandenburg a Mathew Orzel

UDA 2016 1 awr a 43 munud

Mae’r ffilm ddogfen ddirdynnol hon yn mynd â chynulleidfaoedd i ferw’r frwydr rhwng dau o arweinwyr Periw sy’n gwrthwynebu ei gilydd ac sy’n barod i unrhyw beth i warchod eu hamcanion nhw. Mae’r Arlywydd Alan Garcia, sy’n awyddus i ymddangos ar lwyfan y byd, yn dechrau cloddio am olew, mwynau a nwy ar dir cynhenid Amasonaidd sydd heb ei gyffwrdd. Yno, mae’n wynebu gwrthwynebiad chwyrn yr arweinydd cynhenid, Alberto Pizango, sy’n gwneud areithiau angerddol yn erbyn y camau dinistriol ac yn galw ar ei gefnogwyr i’w ddilyn. Pan fo Garcia’n parhau i anwybyddu eu galwadau, mae brwydr eiriol llawn tensiwn yn ffrwydro’n drais angheuol. 

“Poignant[...]Dramatic” HOLLYWOOD REPORTER

Enillydd Gwobr y Ffilm Gyntaf Orau yng Ngŵyl Ffilm Sundance 2016

Dydd Mawrth 9 Mai 7.30pm

UK_Green_Film_Festival_small.jpg

Prices and Times:

Tue 9th May

Pricing Information:

CategoryPrice
Full price:£ 7.25
Under 18's:£ 6
Full time students:£ 6
Senr.Citizens:£ 6
Other Conc.:£ 6