Swydd newydd: Rheolwr Cynllunio a Gweithrediadau Diwylliannol
Gwener 10 Medi
- Gwna cais fan hyn
- Swydd ddisgrifiad fel pdf
- Dyddiad cau: Dydd Llun yr 11eg o Hydref
Nod Canolfan y Celfyddydau Taliesin yw cyfoethogi bywydau cymunedau Abertawe a'r rhanbarth, gan gynnwys myfyrwyr a staff Prifysgol Abertawe. Erbyn hyn, mae gennym enw am gynnig rhaglen gyfoethog ac amrywiol o gelfyddydau perfformio a sinema. O'i gwreiddiau fel darparwr gwasanaeth i Gyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Abertawe, mae Taliesin wedi ei sefydlu ei hun fel 'gwerddon ddiwylliannol' sy'n rhan hanfodol o dirlun diwylliannol y ddinas.
Rydym yn datblygu ein tîm i'n helpu i gyflawni ein gweledigaeth a'n blaenoriaethau strategol dros y pum mlynedd nesaf yn dilyn penodi ein Cyfarwyddwr Artistig/Pennaeth Gwasanaethau Diwylliannol (Mawrth 2020) ac wrth i ni ymateb i'r heriau a'r gorwelion newydd sydd wedi dod i'r amlwg yn sgîl COVID-19. Rydym yn chwilio am unigolyn sy'n rhannu ein hangerdd am y celfyddydau a diwylliant, ein hymrwymiad i amrywiaeth ac sydd â'r sgiliau a'r profiad i'n helpu i ddatblygu portffolio gweithredol a chynllunio gwaith Taliesin.
Prif ddiben y swydd:
- Gweithredu fel aelod o'r Uwch-dîm Rheoli yng Nghanolfan y Celfyddydau Taliesin ac yn rhinwedd y rôl hon, nodi a chreu cysylltiadau priodol â'r holl dimau a darparu cyngor ar yr amrywiaeth o faterion sy'n effeithio ar r holl weithrediadau a chynllunio gweithgareddau Canolfan y Celfyddydau.
- Cyfrannu'n strategol at ddatblygiad sefydliadol Canolfan y Celfyddydau ac arwain gwaith fformiwleiddio newidiadau sy'n ofynnol fel rhan o'r prosesau gweithredu a chynllunio.
- Cefnogi gwaith datblygu strategaeth, ac arwain ar waith datblygu prosesau a pholisïau presennol a newydd ar gyfer Canolfan y Celfyddydau sy'n ymwneud â pharhad busnes ac adfer, rheoli risg, gwariant cyfalaf, deddfwriaeth/trwyddedu, llywodraethu a chydymffurfio a chyflawni ein rhwymedigaethau i gyllidwyr
- Cefnogi prosesau adolygu blynyddol gyda chyllidwyr refeniw.
Ar hyn o bryd, mae gan Ganolfan y Celfyddydau Taliesin ddiffyg unigolion o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Byddem yn croesawu ceisiadau'n benodol gan ymgeiswyr â phrofiad o'r meysydd hyn. Gwneir penodiadau ar sail teilyngdod.
Manylion cyswllt ymholiadau anffurfiol & gwybodaeth bellach
Croesewir ymholiadau anffurfiol a dylid eu cyfeirio at sylw: Simon Coates, Pennaeth Gwasanaethau Diwylliannol yn simon.coates@abertawe.ac.uk
Telerau ac Amodau Cyflogaeth
- Oriau: 35 awr yr wythnos.
- Gwyliau Blynyddol: 31 o ddiwrnodau'r flwyddyn ynghyd â Gwyliau Banc (pro rata ar gyfer staff rhan-amser)
- Telir cyflog ar Radd 9 ar y raddfa gyflogau ar gyfer Staff.
- Mae’r penodiad yn amodol ar y Telerau Penodi Cyffredinol ar gyfer Staff Academaidd.
Mae'r ddolen ganlynol yn darparu rhagor o wybodaeth am fanteision gweithio ym Mhrifysgol Abertawe: https://www.swansea.ac.uk/cy/y-brifysgol/swyddi-a-gweithio-yn-abertawe/swyddi-a-gweithio-yn-abertawe/
Mae’r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi ac i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Ein nod yw creu amgylchedd cynhwysol ac rydym yn croesawu ceisiadau amrywiol gan bobl sy’n perthyn i’r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.
- Gwna cais fan hyn
- Swydd ddisgrifiad fel pdf
- Dyddiad cau: Dydd Llun yr 11eg o Hydref