CARTREF A CHYNEFIN: Galwad newydd am artistiaid a chynhyrchwyr lleol
Mercher 18 Awst
Cartref a Chynefin: Byw gyda’n hangenfilod
(Prifysgolion Aberystwyth, Bangor ac Abertawe)
GALWAD NEWYDD AM ARTISTIAID A CHYNHYRCHWYR LLEOL
- DYDDIAD CAU am fynegiadau o ddiddordeb ar gyfer y ddwy rôl at atrstaff@aber.ac.uk erbyn dydd Mercher 22ain o Fedi 2021.
Prosiect celfyddydol aml-genedliadol, aml-ieithog yw Cartref a Chynefin a grewyd ar y cyd mewn partneriaeth gyda Chelfyddydau Pontio (Prifysgol Bangor), Canolfan Gelfyddydol Taliesin (Prifysgol Abertawe) a Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth (Prifysgol Aberystwyth), sy’n anelu at ddod ag aelodau’r gymuned, myfyrwyr ac artistiaid at ei gilydd i archwilio materion sy’n gysylltiedig â diwylliant, hunaniaeth a dinasyddiaeth. Bydd y prosiect yn gweithio gyda chymunedau nad ydynt yn cymryd rhan yn rheolaidd yn, neu’n teimlo eu bod yn cael eu cynrychioli gan, y celfyddydau yng Nghymru, yn ogystal â myfyrwyr a staff y tair prifysgol.
Rydym yn edrych am artistiaid a chynhyrchwyr o Aberystwyth, Bangor ac Abertawe i weitho ochr yn ochr â Lopez (artist arweiniol) a Cath Sherrell (cynhyrchydd arweiniol) i greu prosiectau yn y tair dinas i’w profi gan gynulleidfaoedd rhwng mis Ionawr a mis Chwefror 2022.
Bydd yr artistiaid a chynhyrchwyr lleol yn creu’r gwaith yn eu lleoliad penodol nhw, mewn unrhyw ffurf sy’n apelio gorau atyn’ nhw a’r sawl sy’n cymryd rhan yn y prosiect - o berfformiad i osodwaith, cerddoriaeth a sain, fideo, podcast, nofelau graffig neu blatfform ar-lein.
Anogir artistiaid a chynhyrchwyr o bob disgyblaeth a gyda phrofiad a/neu diddordeb mawr mewn gweithio gyda chyfranogwyr/cymunedau i gyflwyno cais.
Rydym nawr yn gwahodd mynegiadau o ddiddordeb mewn ymateb i’r weledigaeth artistig isod:
Byw gyda’n hangenfilod
“Yn yr ychydig o flynyddoedd diwethaf mae’r hyn yr oeddem yn ystyried fel cartref, fel lle diogel a chyfarwydd, wedi troi’n gynefin. Rydym wedi anghytuno’n llwyr ynglyn â phwy yr ydym a lle ‘r ydym yn mynd fel gwlad ac fel cenedl. Teimlem ein bod wedi’n twyllo gan wleidyddion a daeth ein strydoedd, ein hardaloedd a’n teuluoedd yn estron. Yn ystod y cyfnodau clo cawsom ein cyfyngu i’n lolfeydd ein hunain, i’n cyfrifiaduron, ac yno, wedi’n hysgwyd gan y dystiolaleth glir o’r hiliaeth a’r rhywiaeth sy’n ddwfn yn ein cymdeithas, buom yn byw heb bobl, gyda cholled pobl. Ac yn ein cartrefi, oedd eisoes wedi troi’n wyllt, dechreuom sylweddoli y buom yn cydfyw â rhyw hanfod anhysbys arall, anghenfil: ni ein hunain.
Anghenfil: Creadur dychmygol mawr, hyll a brawychus o’r gair Lladin ‘monere’, ‘i rybuddio’.
Ein rhybuddio am beth? ‘Nawr ein bod yn dechrau mentro allan eto’n betrus, ‘rydym yn gwybod ychydig bach mwy amdanom ein hunain ac yn cael ein boddi gan gwestiynau: Pwy ydym ni? Pwy yw’r bobl yr ydym yn byw gyda nhw? Beth sydd ein huno â’n gilydd? Y tir? Yr iaith? Cerdd? Cân? Gwrthrych?
Yr arteffact hynaf y daethpwyd o hyd iddo yng Nghymru oedd asgwrn gên ceffyl gyda phatrymau igam-ogam. Mae’n 14,000 mlwydd oed a daethpwyd o hyd iddo yn Ogof Kendrick, ger Llandudno yng Ngogledd Cymru. Mae’n ddiddorol mai gên ceffyl addurnedig yw’r gwaith celf hynaf a ddarganfyddwyd yng Nghymru, cenedl sy’n cael ei diffinio gan ei hiaith. Esgyrn a geiriau.
Penglog ceffyl wedi’i haddurno yw’r Fari Lwyd, fel arfer ar ffon yn cael ei chario gan rywun yn cuddio o dan gynfas wen neu liain bwrdd. Yn anghyffredin o dal, mae’n edrych fel Angau gyda rhubanau ac mae’n curo ar ddrysau pobl i ddechrau brwydr rap neu Pwnco. Yn groes rhwng priodferch ifanc a’n hen, hen famgu, mae ganddi eiddilwch catastroffig a lletchwithdod sy’n embaras ac yn gymhellol ar yr un pryd. Yn draddodiadol mae hi’n troi i fyny ym mis Ionawr ac mae hi am ddod i mewn i gael diod, lle wrth y bwrdd, i ganu ac adrodd straeon.
Ond y llynedd, ‘doedd hi ddim yn medru, ac fel ni, wedi’n caethiwo yma heb unlle i fynd, mae hi wedi bod yn ailfeddwl pwy ydi hi a sut y dylai fod. Nid ydym yn siwr be’ mae hi wedi bod yn gwneud, efallai cafodd swydd gyda Deliveroo neu Amazon, efallai ei bod yn gwersylla yn eich gardd ffrynt, mae hi efallai wedi dechrau ei dosbarth ioga ei hun yn eich stryd neu wedi troi’n geffyl rasio. Efallai bod ‘na lawer ohoni yn crwydro o gwmpas neu jyst un. ‘Dan ni ddim yn gwybod. Ond mae hi’n dal yn awyddus i ganu gyda phobl, i wrando ar eu straeon ac i adrodd ei rhai ei hun.
Mae’r prosiect hwn yn ymwneud â ffeindio amser a thosturi i ddelio gyda’n hangenfilod, i groesawu gwesteion nad ydym eu heisiau, a threulio amser gyda phobl wahanol, pobl efallai nad ydym yn cytuno â hwy, er mwyn darganfod ein gilydd tra’n creu, adrodd, canu neu’n dawnsio, yn y byd real neu ar-lein.”
Rydym yn edrych am artistiaid a chynhyrchwyr lleol sydd â diddordeb mewn ystyried, gyda chyfranogwyr a chymunedau, beth mae’n golygu i fyw a chyd-fodoli gyda’n hangenfilod heddiw. Artistiaid sydd, wedi eu hysbrydoli gan symbol, delweddaeth a sain y Fari Lwyd, yn dod o hyd i’r dolenni a’r cysylltiadau rhyngddom ni a’n cymdogion.
BYDD YR ARTISTIAID LLEOL yn:
- meddu ar brofiad o arwain prosiectau artistig dyfeisgar;
- meddu ar brofiad o gydweithio gydag artistiaid eraill;
- medru gweithio’n agos gyda’r artist arweiniol a’r cynhyrchydd arweiniol i ddatblygu a chreu’r gwaith yn eu hardal;
- medru annog cyfranogwyr a chymunedau i gwestiynu, creu ac archwilio syniadau;
- medru cydweithio gyda phob math o bobl sy’n ymwneud â phob math o bethau;
- meddu ar ddealltwriaeth o sut i greu mannau cynhwysol i gefnogi diwylliannau ac ieithoedd amrywiol y Gymru gyfoes;
- medru cyfathrebu syniadau ac ysbrydoli eraill;
- dilyn polisïau a gweithdrefnau’r mudiadau a chydymffurfio â deddfwriaeth iechyd a diogelwch berthnasol.
- FFI’R ARTIST - £7,000 (yn cynnwys TAW)
- DYDDIADAU GWIREDDU’R PROSIECT- Hydref 2021 - Chwefror 2022
- DYDDIAD CAU’R PROSIECT - Mawrth 2022
- DYDDIAD CAU am fynegiadau o ddiddordeb ar gyfer y ddwy rôl at atrstaff@aber.ac.uk erbyn dydd Mercher 22ain o Fedi 2021.
‘Rydym yn awyddus i dderbyn ceisiadau oddi wrth artistiaid nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol yn y celfyddydau, artistiaid Du ac artistiaid o Liw, artistiaid anabl, artistiaid niwroddargyfeiriol ac artistiaid LGBTQ +.
Dylai’ch mynegiad o ddiddordeb gynnwys dim mwy na 2 ochr o A4 NEU fideo 5 munud yn cynnwys eich manylion cyswllt llawn.
Soniwch am:
- Eich disgyblaeth celf
- Eich ymateb a syniadau yn sgil gweledigaeth Mathilde Lopez “Byw gyda’n hangenfilod”
- Sut y byddech yn defnyddio’r Fari Lwyd i ddechrau sgyrsiau gyda phobl ynglyn â syniadau Cartref a Chynefin.
Dylid e-bostio mynegiadau o ddiddordeb at atrstaff@aber.ac.uk.
Gwahoddir ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer i fynychu cyfweliad yn ystod yr wythnos yn dechrau 27 Medi 2021 gyda phanel bach a chyfeillgar sy’n ymwneud â’r prosiect.
BYDD Y CYNHYRCHWYR LLEOL yn:
- medru gweithio’n agos gyda’r cynhyrchydd arweiniol ac artistiaid lleol i ddatblygu a gwireddu gweledigaeth artistig y prosiect
- meddu ar brofiad o annog cymunedau i gymryd rhan mewn prosiectau celfyddydol cynhwysol
- meddu ar brofiad o weithio gydag artistiaid i wireddu syniad
- gyfrifol am gyflawniad y prosiect rhanbarthol yn ei gyfanrwydd fel y’i cytnuwyd gyda’r cynhyrchydd arweiniol
- meddu ar ddealltwriaeth o sut i greu mannau cynhwysol i gefnogi diwylliannau ac ieithoedd amrywiol y Gymru gyfoes
- meddu ar sgiliau cyfathrebu da (ysgrifenedig, ar lafar ac eraill) er mwyn sicrhau bod y prosiect rhanbarthol yn cael ei drefnu a’i farchnata’n effeithiol
- meddu ar sgiliau cyllidol a gweinyddol da, yn cadw at gyllidebau y cytunwyd arnynt ac yn sicrhau y cedwir at yr holl brosesau gweinyddol a chyllidol priodol
- annibynnol ac yn medru mynd ati i ddatrys problemau
- gofalu am gydlynu cyfarfodydd a rheoli amserlenni aelodau tîm y prosiect ac eraill fel bo’n addas
- dilyn yn effeithiol polisïau a gweithdrefnau gwarchod y mudiadau a chydymffurfio â deddfwriaeth iechyd a diogelwch berthnasol.
- FFI’R CYNHYRCHYDD - £7,500 (yncynnwysTAW)
- DYDDIADAU GWIREDDU’R PROSIECT- Hydref 2021 - Chwefror 2022
- DYDDIAD CAU’R PROSIECT - Mawrth 2022
- DYDDIAD CAU am fynegiadau o ddiddordeb ar gyfer y ddwy rôl at atrstaff@aber.ac.uk erbyn dydd Mercher 22ain o Fedi 2021.
‘Rydym yn awyddus i dderbyn ceisiadau oddi wrth gynhyrchwyr nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol yn y celfyddydau, cynhyrchwyr Du ac o Liw, cynhyrchwyr anabl, cynhyrchwyr niwroddargyfeiriol a chynhyrchwyr LGBTQ+.
Dylai’ch mynegiad o ddiddordeb gynnwys dim mwy na 2 ochr o A4 NEU fideo 5 munud yn cynnwys eich manylion cyswllt llawn.
Dywedwch wrthym paham yr ydych yn meddwl eich bod yn addas i ymgymryd â’r rôl ac anfonwch ddolen i unrhyw enghreifftiau o’ch gwaith ar-lein. Pe hoffech, gallwch hefyd gyflwyno CV fel dogfen atodol.
Dylid e-bostio mynegiadau o ddiddordeb at atrstaff@aber.ac.uk.
Gwahoddir ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer i fynychu cyfweliad yn ystod yr wythnos yn dechrau 27 Medi 2021 gyda phanel bach a chyfeillgar sy’n ymwneud â’r prosiect.