Cyhoeddi Mathilde Lopez a Cath Sherrell fel prif gyd-weithwyr Cartref a Chynefin
Mercher 4 Awst
Mae canolfannau celfyddydau tair prifysgol yng Nghymru - Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth (Prifysgol Aberystwyth), Celfyddydau Pontio (Prifysgol Bangor) a Chanolfan Gelfyddydau Taliesin (Prifysgol Abertawe) - wedi dod at ei gilydd i ymgymryd â phrosiect creadigol cymundeol ar raddfa fawr - Cartref a Chynefin. Cyhoeddwyd heddiw y bydd Mathilde Lopez a Cath Sherrell yn ymuno â’r prosiect fel prif artist a phrif gynhyrchydd.
Mae’r Brif artist, Mathilde Lopez, yn aelod sefydlu National Theatre Wales. Mae’n gyfarwyddwraig lawrydd ac yn sefydlydd a chyfarwyddwraig artistig August 012. Mae’n dderbynnydd Gwobr Cymru Greadigol mewn cyfarwyddo opera ac mae’n darlithio’n rheolaidd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Wrth ystyried gweledigaeth y prosiect, dywed Mathilde, “Yn yr ychydig o flynyddoedd diwethaf mae’r hyn yr oeddem yn ystyried fel cartref, fel lle diogel a chyfarwydd, wedi troi’n gynefin. Yn ystod y cyfnodau clo cawsom ein cyfyngu i’n lolfeydd ein hunain, i’n cyfrifiaduron, ac yno, wedi’n hysgwyd gan yr ymgyrch Mae Bywydau Du o Bwys a’r dystiolaeth glir am hiliaeth a rhywiaeth yn ddwfn yn ein cymdeithas, buom yn byw heb bobl, gyda cholled pobl. Ac yn ein cartrefi, oedd eisoes wedi troi’n wyllt, dechreuem sylweddoli y buom yn cydfyw â rhyw hanfod anhysbys arall, anghenfil: ni ein hunain.”
Mae’r Prif Gynhyrchydd, Cath Sherrell, ar hyn o bryd yn Asiant Greadigol ac yn Gydweithwraig Gelfyddydol gyda Chyngor Celfyddydau Cymru a daw hi â’i phrofiad helaeth yn y celfyddydau cymunedol i gefnogi amcanion y prosiect. Yn angerddol ynglyn â’r Celfyddydau a Chynhwysiant, mae hi wedi trefnu llawer o brosiectau celfyddydol ar raddfa fawr. ‘Roedd Cath yn Swyddog Addysg yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ac mae’n adfocad brwd dros y Celfyddydau ehangach yng Nghymru.
Dywed Cath, “’Rwyf wrth fy modd i fod yn rhan o’r prosiect hwn, ac mae’n gyffrous iawn y bydd y gwaith yn digwydd mewn tri gwahanol leoliad, gyda phob un yn recriwtio eu tîm o artistiaid a grwpiau cyfranogol eu hunain er mwyn dod â nhw at ei gilydd i greu ar y cyd. Mae Mathilde wedi datblygu’r weledigeth ar gyfer y prosiect cyfan. ‘Does gennym ddim syniad ar hyn o bryd beth fydd y canlyniadau yn y pen draw ac mi fydd yn hynod ddiddorol i weld sut mae pethau’n datblygu ac yn cymryd siâp.”
Mae Mathilde a Cath yn gofyn: Pwy ydym ni? Beth yw gwlad? Beth sy’n ein clymu at ein gilydd? Y tir? Yr iaith? Cerdd? Cân? Gwrthrych? Bydd y prosiect yn ymwneud â ffeindio amser a thosturi ar gyfer ein hanghenfilod, croesawu gwesteion n a d ydym eu heisiau, a threulio amser gyda phobl wahanol, pobl efallai ein bod yn cytuno neu ddim yn cytuno â nhw.
Dywedodd Dafydd Rhys, cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth “’Rwyf wrth fy modd ein bod wedi denu Prif Artist a Phrif Gynhyrchydd mor wych ar gyfer y prosiect cyffrous hwn. Yn eu dwylo profiadol nhw, ‘rwy’n hyderus y byddwn yn gwireddu prosiect trawiadol ac ystyrlon a fydd yn gadael llawer o atgofion gwerthfawr yn ei sgil.”
Dywedodd Simon Coates, Cyfarwyddwr Canolfan Gelfyddydau Taliesin, “Mae’n bleser mawr gennym wneud y cyhoeddiad hwn heddiw wrth i’r prosiect ddechrau cymryd siâp trwy’r penodiadau hyn. Mae gweledigaeth Mathilde a Cath ar gyfer ymarfer cynhwysol yn hollbwysig i’r ffordd y buom yn dychmygu’r gwaith hwn.”
Dywedodd Osian Gwynn, Cyfarwyddwr Celfyddydau Pontio, “Mae Cartref a Chynefin wedi bod yn themâu mwy perthnasol nag erioed dros y flwyddyn ddiwethaf, wrth i’r pandemig ein cyfyngu i’n cartrefi a’n hardaloedd lleol ar wahanol adegau. Mae hyn wedi gwneud i ni edrych ar ein hamgylcheddau lleol trwy lens wahanol. Bydd y prosiect hwn yn ymchwilio’n ddyfnach syniadau ynglyn â’n cynefin a’n cymunedau, y byd naturiol a’n cymdogion - beth yw’r gwahaniaethau rhyngddom a’r hyn sy’n ein clymu. Dyma brosiect sy’n cynnwys cymunedau lleol, myfyrwyr prifysgol, academyddion ac artistiaid llawrydd - mi fydd yn gyffrous iawn i brofi canlyniadau’r ymchwiliad hwn!”
Cynhelir Cartref a Chynefin yn Aberystwyth, Bangor ac Abertawe lle bydd tri thîm gwahanol o artistiaid a chynhyrchwyr yn gweithio ar y cyd. Daw’r prosiect i ben gyda digwyddiad, neu gyfres o ddigwyddiadau, wedi eu creu mewn lleoliadau penodol gan y bobl sy’n byw yno.
Cyhoeddir yr Artistiaid a’r Cynhyrchwyr rhanbarthol ym mis Awst.