Cartref a Chynefin
Mercher 17 Chwefror
Mae canolfannau celfyddydau tair Prifysgol yng Nghymru - Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth (Prifysgol Aberystwyth), Celfyddydau Pontio (Prifysgol Bangor) a Chanolfan Gelfyddydau Taliesin Prifysgol Abertawe) yn cyd-weithio am y tro cyntaf ar brosiect gwbwl unigryw.
Bydd y gwaith ar draws cymunedau yng Nghanolbarth Cymru, Gogledd Orllewin Cymru ac Abertawe a’r cyffiniau. Bydd y prosiect yn archwilio diwylliant, hunaniaeth a dinasyddiaeth. Trwy broses o weithdai ar draws disgyblaethau artistig, daw cyfranogwyr (myfyrwyr, staff ac aelodau’r gymuned) at ei gilydd i gyfnewid syniadau mewn cysylltiad â’r thema ‘Cartref a Chynefin a all arwain at ddigwyddiad celfyddydol y gellir ei gyflwyno i gynulleidfaoedd mewn amryw o ffyrdd.
Rydym yn edrych am Artist Arweiniol a Chynhyrchydd Arweiniol i ymuno â ni ar y prosiect cyffrous hwn. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma.
Simon Coates
Pennaeth Gwasanaethau Diwylliannol
Canolfan Y Celfyddydau Taliesin, Prifysgol Abertawe