Jump to content
Jump to content

Y Tîm Creadigol

Awdur a Chyfarwyddwr                                D J Britton

Cyfansoddwr a Cherddor               Andy Tamlyn Jones

Dylunydd                                           Bethany Seddon

Y Pypedfeistr                                    Benjamin Ho

Rheolwr cynhyrchu                        Sarah Morgan

Ymgynghorydd artistig                   Philip Mackenzie

Ymgynghorydd sgript                     Jasmine Metcalfe

Technegwyr creadigol                    Andrew Knight, Wyn Fellowes, Erich Talbot

 

Windsongs_Ben_thumbnail.jpg

Benjamin Ho

Ganed a magwyd Benjamin Ho yn Singapore. Mae’n gyfarwyddwr artistig ar y Paper Monkey Theatre yn Singapore. Mae ei waith wedi’i weld yn rhyngwladol yn Kenya, Gwlad Thai, Awstria, ac mae’n enwog yn Singapore  fel pypedwr anturus ac fel theatr-grëwr arloesol. Ymhlith ei waith mwyaf adnabyddus mai Journey West a Mama Looking for Her Cat.


Windsongs_Andy_thumbnail.jpg

Andy Tamlyn Jones

Ganed a magwyd Andy Tamlyn Jones yn Abertawe. Mae’n fwyaf adnabyddus am ei waith fel canwr/cyfansoddwr gyda’r band gwerin Boys from the Hill a’r band pibau Cymraeg Pibau Bach. Mae ei waith diweddar yn cynnwys The Brythonnics Project yn L’Orient, Llydaw ac fel cyfansoddwr/cerddor i’r cynhyrchiad theatr Secret of Belonging.

Mae newydd gyfansoddi a recordio cerddoriaeth ar gyfer Catch the Echoes i brosiectau Parc Margam ac Afon Tawe.

Cyfansoddodd Andy gerddoriaeth yn arbennig ar gyfer y perfformiad a bydd yn ei berfformio’n fyw ar hyd y daith.

Awdur a Chyfarwyddwr

Mae D.J.Britton yn Gyfarwyddwr Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe. Daeth i Gymru o Awstralia, lle enillodd ei ddramâu llwyfan sawl gwobr bwysig. Caiff ei waith darlledu ei gynnwys yn gyson ar y BBC. Mae ei ddramâu llwyfan diweddar yn cynnwys The Wizard the Goat and the Man Who Won the War, a Silverglass.

Dylunydd

Daw Bethany Seddon o Gasnewydd. Hyfforddodd y weithwraig lawrydd hon yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Ymhlith ei phrosiectau diweddaraf mae Romeo and Juliet i Sherman Cymru, My Perfect World i Opera Cenedlaethol Cymru Ieuenctid a Chymuned ac Othello i’r Oxford School of Drama. Gweithiodd gyda D.J. Britton ar To Live to Love to Be.

Rheolwr Cynhyrchu

Mae Sarah Morgan yn aelod creiddiol o Theatr Cadair. Mae hi’n byw yn Abertawe a hyfforddodd mewn theatr dechnegol a rheoli llwyfan ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe. Mae ei gwaith diweddar yn cynnwys: The Wizard the Goat and the Man Who Won the War a Silverglass i Theatr Cadair, Skyhawk a The Hub i Theatr Clwyd ac Adain Avion i Ganolfan y Celfyddydau Taliesin.

Ymgynghorydd sgript

Mae Jasmine Metcalfe wedi bod yn ddall ers iddi gael ei geni. Fe’i haddysgwyd mewn dwy ysgol wladol y brif ffrwd ac yna mewn ysgol i’r deillion. Mae hi’n fyfyrwraig ail flwyddyn yng Ngholeg y Celfyddydau a’r Dyniaethau ym Mhrifysgol Abertawe.

 

Copyright © Taliesin 2017. All rights reserved