Jump to content
Jump to content

Y Cast

Betrys                                                  Gwawr Loader

Pinkie                                                   Meilyr Siôn

Moondyne Joe, J.P.Morgan                      Richard Nichols

Annie Jones, Old Jenny                           Bethan Mai

Young Jenny                                         Heledd Gwynn

 

 

 Windsongs_Gwawr_thumbnail.jpg

Gwawr Loader

Daw Gwawr Loader o Fynwent y Crynwyr a hyfforddodd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Ymddangosodd yn ddiweddar ar Cara Fi i S4C. Mae ei gwaith diweddar ar lwyfan yn cynnwys Garw i Theatr Bara Caws a Portrait of the Artist as a Young Dog i Theatr Clwyd. Mae hi’n mwynhau gwaith trosleisio ac mae wedi’i chydnabod gan MTV, Nickelodeon ac mae wedi recordio gwaith sain i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

 


Windsongs_Meilyr_thumbnail.jpg

Meilyr Siôn

Ymhlith cynyrchiadau theatrig Meilyr mae Disney's 'The Lion King' (2012-2015), 'The Importance Of Being Earnest' - Mappa Mundi, 'Hamlet' – Cwmni Theatr Cymru, 'Pinnochio', 'Everything Must Go' – Theatr Sherman, 'Flora's War' – Theatr Clwyd, 'Dan y Wenallt' - Theatr Gwynedd a 'Ceisio'i Bywyd Hi' - Sherman Cymru.

Mae wedi ymddangos ar amryw gynyrchiadau teledu megis Teulu, Pobol y Cwm, Y Streic a Dirgelwch yr Ogof ar S4C ynghyd â High Hopes ar BBC Wales a Holby City BBC1.

Ymhlith ei gynyrchiadau radio mae 'What We Did On Our Holidays' a 'The Fish Can Sing' - Radio 4, 'Cymbeline' Radio 3, 'Leaving' a 'The Harder They Fall' -Radio Wales a 'Radio Cwm Cwat'- Radio Cymru.

 


Windsongs_Richard_thumbnail.jpg

Richard Nichols

Daw Richard o Borthcawl a hyfforddodd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Gwaith theatr: Adventures in the Skin Trade (perfformiwyd yn y Sydney Opera House), Penblwydd Poenus Pete a Macbeth (Theatr Iolo). The Compleat Female Stage Beauty, A Midsummer Night's Dream, She Stoops To Conquer, Moll Flanders, Canterbury Tales, Macbeth, Hamlet, King Lear, The Three Musketeers, As You Like It, The Taming of the Shrew, Twelfth Night a Coriolanus (y cyfan i Mappa Mundi). Dad yn Danny The Champion of the World (Birmingham Stage), A Christmas Carol, The Merchant of Venice, Twelfth Night, Cymbeline ac Under Milk Wood (Cwmni Theatr Cymru). McMurphy yn One Flew Over The Cuckoo’s Nest, Of Mice And Men, Jack & the Beanstalk, Cinderella a Dead Funny (Theatr Torch). An Enemy of the People (Theatr Clwyd), Table Manners a Kes (Sherman Cymru), The Butterfly Hunter/Heliwr Y Pili Pala, Cider With Rosie ac A Child’s Christmas in Wales (Theatr na n’Og).

Gwaith teledu: Keith yn Scrum 4, Dr. Who, My Family, Casualty, Lucky Bag, The Bench a High Hopes (BBC), Ar y Tracs, Pobol y Cwm, Con Passionate, Iechyd Da ac A Mind to Kill/Heliwr (S4C).

Ffilm: Relative Values a Hollol Mind-Blowing.

Cyfarwyddodd Richard Much Ado About Nothing a The Canterbury Tales i Mappa Mundi.

 


Windsongs_Bethan_thumbnail.jpg

Bethan Mai

Hyfforddodd Bethan yn y Central School of Speech and Drama.

Ymhlith ei chydnabyddiaethau yn y theatr mae ROBERTO ZUCCO i August 018, CORINA PAVLOVA AND THE LION’S ROAR a THE SNOW TIGER, y ddau i Sherman Cymru, PROTEST FUDR i Dirty Protest, RHWNG DAU FYD i Living Pictures a Sherman Cymru, Y BONT i Theatr Genedlaethol Cymru, GUTO NYTH BRÂN i Arad Goch a SPANISH LIES i Grassroots Productions.

Mae hi wedi bod yn rhan o ystod o brosiectau datblygu theatr gan gynnwys CARDIFF HOOLIGANS i National Theatre Wales, Y FENYW DDAETH O’R MÔR i Theatr Genedlaethol Cymru a CYRANO i August 012.

Ymhlith ei gwaith ar y sgrin mae POBOL Y CWM, 35 DIWRNOD, LAN A LAWR, YR UNIG FFORDD YW EDERN, PEN TALAR, AR Y TRACS, DDOE AM DDEG (2 gyfres) a DARN O DIR (3 cyfres), y cyfan i S4C.

Mae Bethan wedi darparu lleisiau Cymraeg i nifer fawr o hoff animeiddiadau i blant gan gynnwys TWT Y BAD BACH TYNNU, CHWEDLAU TINGA TINGA, BOJ AND BUDDIES, GWBOI A TWMTWM, CHWEDLAU'R BYD, BYWYD CUDD SABRINA, NADOLIG Y CARIBÎ, Y PENNAETH A'R SAER a PODNI A PODNA.

Mae Bethan yn gerddor dawnus ac yn canu gyda Rogue Jones a Huw M.

 

 

Windsongs_Heledd_thumbnail.jpg

Heledd Gwynn

Hyfforddodd Heledd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a gwobrwywyd Gwobr Bwrsariaeth Laurence Olivier iddi yn 2012. Graddiodd yn 2013.

Ymhlith ei gwaith theatr mae TI.ME. i Gwmni Pluen a Sherman Cymru, Y FENYW DDAETH O’R MÔR i Theatr Genedlaethol Cymru, A CHILD’S CHRISTMAS IN WALES i Gwmni Theatr Cymru, LAND OF THE DRAGON i Puppet Soup yng Ngŵyl Ffrinj Caeredin, IN LIGHT OF TOM MATHIAS - INCUBATOR PROJECT i Ganolfan Mileniwm Cymru, RHWNG DAU FYD i Living Pictures a Sherman Cymru a SAY IT WITH FLOWERS i Sherman Cymru. 

Ar y sgrin, chwaraeodd Heledd Eleanor mewn ffilm ddigidol ryngweithiol Agatha Christie, MR QUIN, a fydd yn dod yn ap dweud straeon, a wnaed ar y cyd ag Agatha Christie Ltd, Ratchet Films ac Apple.

Mae Heledd wedi darparu lleisiau hefyd i’r Arddangosfa Anabledd a Chymdeithas Ddiwydiannol i Brifysgol Abertawe ac i gynhyrchiad hynod fedrus National Theatre Wales, CORIOLAN / US.

Copyright © Taliesin 2017. All rights reserved