Jump to content
Jump to content

Gwybodaeth Ychwanegol

Disgrifiad Sain a cyn y sioe Taith Cyffwrdd ar gael ar y dyddiadau y daith canlynol:

19/02/16              7.30pm              Canolfan y Celfyddydau, Abertawe               

01792 60 20 60 www.taliesinartscentre.co.uk  

08/03/16              7.30pm              Glan yr Afon, Casnewydd 

01633 656757 www.newport.gov.uk/riverfront


Soundcloud Alawon Gwynt y Môr – taflen sain.

https://soundcloud.com/alastair-sill/windsongs-of-the-blessed-bay-audio-leaflet

i wrando ar y daflen sain ar ddyfeisiau symudol bydd angen i'r app Soundcloud iOS y gallwch ei gael yma, am ddim: https://app.adjust.io/c1ofg4


Y cymeriadau go iawn a mytholegol yn ein stori

Mae Betrys, menyw ifanc a dewr o Gymru, sy’n ddall ers iddi gael ei geni, yn gadael Bae Sain Ffraid yn Sir Benfro yng nghwch pysgota ei thad-cu i fynd ar drywydd dalfa fawr ei freuddwydion. Dan arweiniad mulfran o’r enw Pinkie, mae hi’n cwrdd ag amrywiaeth o gymeriadau lliwgar o hanes a mythau. Mae’r rhain yn cynnwys:


Sain Ffraid

Santes Gristnogol Celtaidd cynnar oedd Sain Ffraid. Datblygodd y chwedl amdani ar sail y dduwies Geltaidd baganaidd a ddaeth o’i blaen hi. Yn y llyfr Gods and Fighting Men (1904), disgrifia’r Fonesig Augusta Gregory y dduwies Ffraid fel “menyw farddonol ac roedd y beirdd yn ei haddoli, oherwydd roedd ei rheolaeth yn fawr iawn ac yn fonheddig iawn…Ac roedd un ochr o’i hwyneb yn salw, ond yr ochr arall yn dlws. Ystyr ei henw oedd Breo-saighit, neu saeth tanllyd.” Ymddengys ei bod hi wedi bod yn dduwies o’r holl bethau yr ystyrir eu bod o ddimensiynau uchel megis fflamau uchel, ucheldiroedd a bryngaerau a phopeth tal ac uwch, fel doethineb, rhagoriaeth, perffeithwch, deallusrwydd uchel, huodledd barddonol a chrefftwaith (yn enwedig gwneud haearn).

Yn ôl y canoloeswr Pamela Berger, “cymerodd mynachod Cristnogol ffigur hynafol y fam dduwies ac impio’i henw a’i swyddogaeth ar ei chymheiriaid Cristnogol.”

Mae diwrnod gwledd Gatholig Sain Ffraid ar 1 Chwefror, sy’n cyd-daro â’r Ŵyl Geltaidd Imbolc. Mae traddodiad Sain Ffraid yn gryf yn Iwerddon (lle caiff ei hadnabod fel St Brigid), ac yn yr Alban fel Brìghde/Brìde. Caiff ei hadnabod hefyd fel  Breo Saighead (y saeth tanllyd), Brigindū (yng Ngâl); Brigantia, Braga neu Braganca (cyn hynny Gallaecia, Gogledd Portiwgal heddiw), Brigantis (Prydain Fawr) a Bregenz (Awstria).

Sefydlwyd ei chwlt Cymreig mewn ardaloedd a wladychwyd gan y Gwyddelod hyd at yr 8fed ganrif. Cyfeiria Iorwerth Fynglwyd (oddeutu 1480-1527), bardd Llansanffraid ym Morgannwg, ati fel ‘morwyn wen’ ac fel ‘morwyn ddedwydd’. Ysgrifennodd: “Pan ddymunai ei thad iddi briodi rhywun nad oedd yn ei hoffi, syrthiodd un o’i llygaid allan o’r soced… hwyliodd ar ddarn o dir o Iwerddon a glanio yn afon Dyfi; daeth allan o’r brwyn yng Ngwynedd, gyda physgodyn hardd, heb yr un asgwrn - o’r enw brwyniaid ac fe’i taflodd allan o’i llaw ymhlith y berwr; aeth i Rufain i San Pedr; sefydlodd Iesu ei gŵyl ar Noswyl Fair y Canhwyllau ac arslwyd yr ŵyl honno gyda chymaint o ddifrifoldeb â dydd Sul.

Mae’r lleoedd sy’n gysylltiedig â Sain Ffraid yng Nghymru’n cynnwys Bae Sain Ffraid yn Sir Benfro a nifer o eglwysi sydd wedi’u cysegru i Sain Ffraid. Mae llawer o’r rhain mewn pentrefi gydag enwau sy’n dechrau gyda “Llansanffraid” neu “Llansantffraid”.

Mae Bae Sain Ffraid yn ymestyn o Dyddewi yn y gogledd i Wooltack Point yn y de. Gerllaw pen deheuol y bae mae pentrefan Sain Ffraid. Yn ôl yr hanes lleol, sefydlodd Sain Ffraid leiandy yma. Crybwyllir yr eglwys yn Sain Ffraid ym 1291. Fe’i hadferwyd ym 1863 ac unwaith eto yn 2003. I’r gogledd o’r eglwys ar draeth Hafan Sain Ffraid, arferai fod gweddillion capel bach ond mae hwnnw wedi’i golli i’r môr. Roedd yr hen fynwent yn cynnwys claddedigaethau sydd wedi’u carbon-ddyddio i’r 10fed ganrif.

Gweddïodd y pysgotwyr i Bridget gael dalfa dda a diogelwch ar y môr. Dirywiodd y capel bach hwn rhywbryd rhwng y 12fed ganrif a’r 14eg ganrif ac fe’i defnyddiwyd fel tŷ halltu i gochi penwaig. Yn ei dicter, dywedodd bod Bridget wedi tynnu ei diogelwch yn ôl ac mae yna hen rigwm sy’n dweud


When St. Bride's chapel a salt house was made,

St. Bride's lost the herring trade.

 

Bendigeidfran. Cawr o Frenin Celtaidd Mytholegol

Cawr a brenin mytholeg Gymreig yw Bendigeidfran, mab Duw'r Môr, sef Llŷr a Penarddun, ac ŵyr Belenos, Duw’r Haul. Golyga ei enw Brân, a’r aderyn hwn oedd ei symbol. Ymddengys mewn sawl un o’r Trioedd Cymreig, ond roedd ei rôl fwyaf arwyddocaol yn Ail Gainc y Mabinogi, sef Branwen ferch Llŷr. Mae’n frawd i Branwen, Manawydan, Nisien ac Efnisien.

http://www.britannia.com/celtic/gods/bran.html

 

Ynys Gwales

Ar ddiwrnodau clir, gall pobl sy’n edrych dros Fae Sain Ffraid weld siâp asgell siarc Gwales i gyfeiriad y gorllewin gyda’i ymddangosiad brith: un ochr o’r graig yn dywyll, y llall yn wyn o faw adar lle mae cytref enfawr yr ynys o wylanwyddau’n nythu. Mae’n gartref i bron i 40,000 pâr o’r adar môr plymio mawr hyn. Gall cychod sy’n agosáu at Gwales yn erbyn y gwynt ei harogli cyn iddynt ei gweld oherwydd y baw gwylanwyddau. Dyma bwynt mwyaf gorllewinol Cymru, sydd rhyw wyth milltir oddi ar arfordir Sir Benfro ac mae’r RSPB wedi bod yn berchen arno er 1947. Mae Gwales wedi’i hadnabod fel yr ynys a gafodd ei chynnwys yn y Mabinogion lle cafodd pen toredig Benidgeidfran ei gadw’n fyw yn wyrthiol am 80 o flynyddoedd.

 

Moondyne Joe (Joseph Bolitho Johns)

Moondyne Joe (1826 - 1900), neu o roi ei enw go iawn Joseph Bolitho Johns, yw coedwigwr enwocaf Gorllewin Awstralia. Daeth yn enwog, nid oherwydd ei droseddau, ond am ei sawl dihangfa o’r carchar. Gallwch ddarllen ei stori mewn rhagor o fanylder fan hyn: http://adb.anu.edu.au/biography/johns-joseph-bolitho-3859

J.P. Morgan

Ganed John Pierpont Morgan i deulu amlwg yn New England ar 18 Ebrill, 1837, yn Hartford, Connecticut. Ar ôl graddio o’r ysgol uwchradd yn Boston ym 1854, aeth Pierpont, fel yr oedd yn cael ei adnabod, i astudio yn Ewrop, lle dysgodd Ffrangeg ac Almaeneg, wedyn dychwelodd i Efrog Newydd ym 1857 i ddechrau ei yrfa mewn cyllid.

Ariannodd J P Morgan, sef un o fancwyr mwyaf pwerus ei oes, reilffyrdd a helpodd drefnu U.S. Steel, General Electric a chorfforaethau mawrion eraill. Dilynodd ei dad cyfoethog i mewn i’r byd bancio ar ddiwedd y 1850au. Ym 1895, ffurfiodd J.P. Morgan & Company, sef rhagflaenydd y cawr ariannol modern JPMorgan Chase. Defnyddiodd Morgan ei ddylanwad i helpu sefydlogi marchnadoedd ariannol America yn ystod sawl argyfwng economaidd, gan gynnwys panig 1907. Fodd bynnag, wynebodd feirniadaeth fod ganddo ormod o bŵer ac fe’i cyhuddwyd o ddefnyddio system ariannol y wlad er ei fudd ei hun.

Gwariodd Morgan gyfran sylweddol o’i gyfoeth yn hel casgliad helaeth o waith celf, a rhoddodd lawer o weithiau celf i’r Amgueddfa Gelf Fetropolitan yn Efrog Newydd.

Bu farw’r ariannwr enwog o dras Gymreig yn 75 oed yn Rhufain ym 1913. Ar ddiwrnod ei angladd, caeodd Cyfnewidfa Stoc Efrog Newydd tan ganol dydd er anrhydedd iddo

Jenny Gruffydd (Jenny Jones yn nes ymlaen) o Dal-y-llyn

Ar ddechrau’r 19eg ganrif, pan oedd Prydain ymhlith y gwledydd a ruodd yn erbyn yr unben Ffrengig, Napoleon Bonaparte, apeliodd y brenin am ragor o luoedd.

Gofynnwyd i Blwyf Tal-y-llyn, sy’n eistedd o dan lechweddau Deheuol Cadair Idris yn Eryri, am un milwr gorfod yn unig. Gwirfoddolodd Lewis Gruffydd. Aeth i Ddulyn i hyfforddi i fod yn filwr, ac un bore Sul, cyfarfu â ,erch ifanc o’r enw Jenny Brown.

Roedd hi lawer uwch na Lewis o ran safle cymdeithasol oherwydd fe’i ganed i deulu cyfoethog a hyddysg tra’r oedd Lewis yn dlawd ac yn anllythrennog. Gorchfygodd cariad yn erbyn y gwahaniaethau ac yn y diwedd roedden nhw’n briod. Cafwyd gwrthwynebiad mawr gan y ddau deulu a thorrodd ei theulu hi’r berthynas gyda hi. Dilynodd Jenny Lewis i faes y gad yn Rhyfeloedd Napoleon. Yn Waterloo ar 19 Mehefin 1815,  galwyd enwau pob un o’r fintai, ond nid atebodd Lewis pan alwyd ei enw. Roedd Jenny’n ofni’r gwaethaf a chwiliodd drwy’r holl bebyll lle gorweddai’r clwyfedigion, gyda’i phlentyn ifanc yn ei breichiau. Yn sydyn, galwodd y plentyn ‘Dadi’ ac er mawr lawenydd i Jenny, daeth o hyd i Lewis, a oedd wedi cael ei saethu yn ei ysgwydd.

Gydag amser, dychwelon nhw i Dal-y-llyn. Daeth Lewis o hyd i waith yn un o’r chwareli lle bu farw o ddamwain ym 1837. Ailbriododd Jenny, ond roedd y berthynas yn un anhapus. Bu farw’n dlawd yn Nhal-y-llyn ar 11 Ebrill 1884, yn 94 oed.

Mae ei charreg bedd yn darllen ‘Sacred to the memory of Jenny Jones.  Born in Scotland 1784.  She was with her husband of the 23rd Royal Welch Fusiliers at the Battle of Waterloo and was on the field three days.’

 

Annie Jones

Roedd Donetsk - sy’n sefyll yn y diriogaeth sy’n destun dadl rhwng Rwsia a’r Ukrain ar hyn o bryd - yn adnabyddus ar un tro fel Yuzovka (neu Hughesovka), a enwyd ar ôl John Hughes, Cymro a aned ym Merthyr Tudful ym 1814. Gwahoddwyd Hughes gan y Tsar Rwsiaidd i ddatblygu’r diwydiant mwyngloddio a meteleg, ac fe sefydlodd weithfeydd haearn a rheilffordd. Rhoddodd ffatri Hughes ei enw i’r dref, a dyfodd yn gyflym ac yn dilyn hynny, daeth yn un o ganolfannau diwydiannol mwyaf Ymerodraeth Rwsia. Canmolir Hughes am iddo ddarparu o’i boced ei hun ysbyty, ysgolion, baddondai, ystafelloedd te a brigâd dân er mwyn gwasanaethau’r gweithwyr yn ei gymhlyg. Bu Cymraes o’r enw Annie’n athrawes gartref i wyrion Hughes ar un tro. Dychwelodd i Gymru a phriododd ag athro ysgol. 

Pan oedd yn blentyn ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg clywodd Gareth Jones sawl hanes gan ei fam, Mrs. Annie Gwen Jones, am ei phrofiadau yn Donetsk. Ysgogodd hyn ddymuniad mewn Gareth Jones i ymweld â’r wlad lle treuliodd ei fam dair blynedd gofiadwy.

Roedd ganddo yrfa academaidd wych yn y Brifysgol, yn Aberystwyth a Chaergrawnt lle enillodd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Ffrangeg, Almaeneg a Rwsieg. O raddio ym 1930, daeth yn Ymgynghorydd Materion Tramor i David Lloyd George ac yn ystod haf y flwyddyn hon, gwnaeth ei ‘bererindod’ gyntaf i Hughesovka. Ym mis Mawrth 1933, aeth ar drên i’r Ukrain o Foscow, aeth allan o orsaf drenau a chyda llyfr nodiadau yn ei law, dechreuodd gerdded trwy bentrefi tir oedd yn cael ei ddistrywio gan y newyn a grëwyd gan y Sofietau, a adwaenir erbyn hyn fel yr Holodomor.

Y fulfran

Mae’r mulfrain gwddf hir, pig hir a du ymhlith yr adar arfordirol hawsaf i’w hadnabod ym Mhrydain. Fe’u gwelir yn aml yn sychu eu hadenydd wedi’u hymestyn. Mae’r fulfran yn annwyl ac yn cael ei chasáu gan bobl ym mhedwar ban byd. Ystyria pysgotwyr eraill y fulfran sy’n plymio’n ddwfn fel cystadleuydd am bysgod. O’r herwydd, cafodd y Fulfran Ddu Fawr ei hela bron hyd iddi ddarfod cyn iddi ddod yn rhywogaeth warchodedig. Ac eto, ystyria rai diwylliannau fod mulfrain yn symbol o foneddigeiddrwydd. Yng ngogledd Norwy, maen nhw’n lled gysegredig; dywed stori draddodiadol fod pobl sydd ar goll yn y môr yn treulio tragwyddoldeb ar ynys fytholegol Utrøst a gallant ond ymweld â’u cartrefi ar ffurf mulfrain. Yn Tsieina a Japan, clyma bysgotwyr linell o gwmpas gyddfau’r mulfrain, yn ddigon tynn i atal llyncu, a’u bwrw o gychod bach. Mae’r mulfrain yn dal y pysgod heb allu eu llyncu’n llwyr, a gall y pysgotwyr gael y pysgod yn ôl trwy agor cegau’r mulfrain.

Erbyn hyn mae rhyw  1.2 miliwn o fulfrain yn Ewrop ond mae cynnydd mewn poblogaethau wedi esgor ar broblemau. Ym Mhrydain, mae ffermydd pysgod a physgodfeydd mewndirol yn honni eu bod yn dioddef colledion mawr ac mae trwyddedau wedi’u cyhoeddi i ddifa niferoedd penodedig o adar.

Yn Unol Daleithiau America, saethodd saethwyr sicr yr Adran Amaethyddiaeth ryw 2,500 o fulfrain deugribog (double crested) y llynedd yn Llyn Leech yng ngogledd Minnesota canolog. Er gwaetha’r dystiolaeth sigledig, mae’r pysgotwyr yno’n argyhoeddedig fod sgiliau’r fulfran fel ysglyfaethwr yn creu anrhefn mewn pysgodfeydd.

“Dydw i ddim yn gwybod a oes unrhyw aderyn arall y mae pobl yn ei gasáu â chas perffaith gymaint â hwn” dywedodd D Linda Wires o Brifysgol Minnesota. Mae’n amau mai mater o ymddangosiad sydd i’w briodoli’n rhannol; mae mulfrain yn fawr, yn ddu ac yn ymdebygu i groesiad rhwng brân a gŵydd. “Mewn cymunedau pysgota, nid oes fawr o oddefgarwch, os o gwbli fulfrain. Nid oes fawr o ots beth mae’r data’n ei ddweud."

 

Copyright © Taliesin 2017. All rights reserved