Taliesin Performances - Omar Sosa & Seckou Keita

Overview:

Omar Sosa & Seckou Keita

Mae Transparent Water yn gydweithrediad prydferth newydd rhwng y pianydd, cyfansoddwr ac arweinydd band sydd wedi ei enwebu am GRAMMY saith gwaith, sef Omar Sosa o Cuba, a Seckou Keita, meistr y kora a chanwr o Senegal. Ar ôl iddyn nhw gyhoeddi eu halbwm cyntaf ‘Transparent Water’ ledled y byd ar 24 Chwefror 2017, bydd y pâr yn cychwyn ar siwrnai gyda’i gilydd, ym mis Tachwedd y flwyddyn hon, gyda’r offerynnwr taro Gustavo Ovalles, i berfformio’i record newydd yn fyw i gynulleidfaoedd y DU.

Mae Sosa a Keita fel ei gilydd yn anturwyr cerddorol enwog, ag etifeddiaeth fyd-eang gyfoethog sy’n cynnwys dylanwadau jas, Lladin ac Affricanaidd. Mae’r cyfuniad o’r ddau artist yn perfformio gyda’i gilydd yn hynod o gyffrous.

Transparent Water yw’r esiampl ddiweddaraf o ymgais anhygoel Omar Sosa i ddod o hyd i gyfuniadau newydd, i arddangos rhyddid chwarae'n fyrfyfyr a’r llawenydd o fynegiant artistig a rennir gyda Keita. Enillodd Keita wobr Songlines 2016 am yr albwm gorau yn Affrica a’r Dwyrain Canol, am ei albwm unigol diweddaraf, 22 Strings. Cafodd hefyd ei enwebu am wobr yr Artist Gorau.

 

“An extraordinary album seamlessly melding Latin American and West African music” 4* Roger Farbey, All About Jazz

“Transparent Water is where world music meets world jazz, where tradition meets improvisation and where the lines of spiritual and earthy meet”

“The result is stunningly evocative.” TJ Nelson, World Music Central

“Sosa and Keita deliver a work that variously ebbs, flows and sparkles” 4* Jane Cornwell, Jazzwise

Nos Sadwrn 11 Tachwedd 7.30yh

Lluniau: Jon Razinger, Okarina Festival

Dates and Times:

Sad 11th Tac

Pricing Information:

CategoryPrice
Full price:£ 20
Under 18's:£ 18
Full time students:£ 18
Senr.Citizens:£ 18
Other Conc.:£ 18

View Preview:

Dychwelyd I Archebu Blaenorol Nesaf