Taliesin Performances - Macbeth

Overview:

Macbeth

Theatr Genedlaethol  Byw

Cyfarwyddwr: Arwel Gruffydd

Theatr Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Cadw a gyda chefnogaeth gan Chapter

 “Hyll yw’r teg, a theg yw’r hyll;

Hofran yn yr aflan niwl a’r gwyll.”

Mae brenin yr Alban wedi gwobrwyo ei filwr mwyaf disglair yn hael. Ond mae bodau goruwchnaturiol wedi darogan i Macbeth anrhydedd lawer mwy.

Pan fo ei wraig ddidostur yn gwirioni ar addewid o bŵer di-ben-draw, gan annog uchelgais cythreulig ei gŵr, mae ar ben arno, ac mae cynllun dieflig y ddau yn troi’n gyflafan waedlyd.

Cynhyrchiad safle-benodol Theatr Genedlaethol Cymru – yn fyw o Gastell Caerffili – o glasur Shakespeare wedi ei gyfieithu o’r newydd i’r Gymraeg gan y diweddar Gwyn Thomas.

Cast yn cynnwys Richard Lynch (Pobol y Cwm, Y Gwyll) fel Macbeth, a Ffion Dafis (Byw Celwydd, Rownd a Rownd) fel ei wraig ddi-drugaredd.

Bydd y darllediad yn cael ei ragflaenu gan ffilm fyr ar wneud y cynhyrchiad.

Addas i 11+ oed

Nos Fawrth 14 Chwefror 7.15yh

Dates and Times:

Maw 14th Chw

7.15yh

Pricing Information:

CategoryPrice
Full price:£ 10
Under 18's:£ 8
Full time students:£ 8
Senr.Citizens:£ 8
Other Conc.:£ 8

View Preview:

Dychwelyd I Archebu Blaenorol Nesaf